Bydd disgyblion yn gymwys i gael cludiant am ddim os ydynt yn cwrdd â’r HOLL feini prawf canlynol:
- yn byw yn Sir Gaerfyrddin (h.y. Treth y Cyngor ar gyfer y cyfeiriad cartref cofrestredig yn cael ei dalu i Sir Gaerfyrddin);
- o oedran ysgol gorfodol;yn mynychu ysgol ddynodedig yr AALl neu ysgol agosaf;
- yn byw dros y "pellter cerdded statudol" o'r ysgol. Diffinnir y "pellter cerdded statudol" fel a ganlyn: 2 filltir (3.218km) ar gyfer ysgolion cynradd a 3 milltir (4.828km) ar gyfer ysgolion uwchradd, a chaiff ei fesur yn ôl y llwybr agosaf sydd ar gael.
- Er y cyfeirir at y pellter fel "pellter cerdded statudol" nid yw'n awgrymu y disgwylir i’r dysgwr gerdded o reidrwydd, ond yn hytrach y pellter y mae disgwyl i riant/gwarcheidwad wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer cludo’r dysgwr, i’r ysgol ac adref, ar eu traul eu hunain.
Mae’n BOSIBL y caiff cludiant ei ddarparu ar gyfer disgyblion mewn amgylchiadau penodol am y rhesymau canlynol:
- Diogelwch ar y Ffyrdd, lle nad oes llwybr cerdded diogel i'r ysgol. Caiff y llwybr cerdded rhwng cyfeiriad y cartref a’r ysgol ei asesu yn unol â chanllawiau Cymdeithas y Swyddogion Diogelwch Ffyrdd ‘Identification of Hazards and the Assessment of Risk of Walked Routes to School’;
- Cyflwr meddygol. Gall trefniadau cludiant unigol gael eu gwneud lle mae cyflwr meddygol dysgwr naill ai yn ei rwystro rhag gwneud defnydd o'r cludiant arferol neu lle mae ei gyflwr yn ei rwystro rhag cerdded y "pellter cerdded" penodedig. Rhaid i bob cais am gymorth ar sail feddygol gael ei gefnogi gan dystysgrif feddygol neu ddatganiad wedi’i lofnodi gan ymarferydd meddygol a rhaid iddo nodi'n glir na all y dysgwr gerdded y "pellter cerdded" penodedig i'r ysgol. Bydd pob datganiad yn amodol ar gyfnod adolygu a bennir gan y cyflwr ac y cytunwyd gyda'r rhiant pan wnaed y dyfarniad cychwynnol.
- Dysgwyr ag anawsterau dysgu/anableddau - gweler pwynt 4 isod.
- Dilyniant o gwrs astudio i lefel uwch mewn pwnc a oedd gynt wedi'i ddilyn yn yr ysgol uwchradd ddynodedig. Ar gyfer dysgwyr sy’n dilyn cwrs astudio yn ysgol ddynodedig yr AALl neu'r ysgol agosaf ac sydd wedyn yn methu parhau â'r cwrs hwnnw hyd at Lefel Uwch yn yr ysgol ddynodedig neu’r ysgol agosaf oherwydd nad yw’r cwrs penodol hwnnw neu gwrs arall addas ar gael. Rhaid i ddysgwyr fodloni'r meini prawf o ran oedran, pellter ac ysgol agosaf neu ddynodedig.
- Newid preswylfa mewn blwyddyn arholiad terfynol. Rhoddir cymorth os bydd dysgwr yn newid preswylfa yn ystod blwyddyn arholiad terfynol (blwyddyn 11 neu 13) ar yr amod bod y dysgwr yn bodloni'r meini prawf ar oedran a phellter yn y cartref newydd, a’i fod, cyn newid ei breswylfa yn mynychu'r ysgol agosaf neu ysgol ddynodedig yr AALl.
- Credoau crefyddol. Caiff cludiant ei ddarparu fel arfer os bydd rhieni yn dewis anfon dysgwyr i ysgol wirfoddol a gynorthwyir am resymau crefyddol, ar yr amod fod y dysgwr yn bodloni’r meini prawf ar oedran ac isafswm pellter teithio, ac nad ydynt yn byw fwy nag 8 milltir o'r ysgol. Mae trefniadau ychwanegol ar gyfer Ysgol Sant Ioan Llwyd, Llanelli - gofynnwch i'r Uned Cludiant Teithwyr am wybodaeth.
- Cyfrifoldeb rhieni yw trefnu a thalu am gludo disgyblion i’r ysgol os nad ydynt yn gymwys i gael cludiant am ddim. Cynghorir rhieni i gysylltu â'r Awdurdod cyn penderfynu ar eu dewis ysgol er mwyn gweld a yw’r disgybl yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim.
Ar sail cyfeiriad cartref y disgybl yn unig y caiff ceisiadau eu hasesu (sef y cyfeiriad a gofrestrwyd gyda'r ysgol a'r AALl) a dim ond o’r cyfeiriad hwnnw y darperir cludiant fel arfer. Mae rhieni yn gyfrifol am roi gwybod i'r Uned Cludiant Teithwyr cyn newid cyfeiriad, er mwyn asesu a yw’r disgybl yn gymwys i gael cludiant am ddim o'r cyfeiriad newydd.
Mae’n ofynnol i awdurdodau wneud darpariaeth ar gyfer dysgwyr sy'n byw mewn mwy nag un cyfeiriad, e.e. trefniadau rhannu gofal. Rhaid i drefniadau o'r fath fod yn barhaol a sefydlog a dim ond ar gyfer y cyfnodau hynny pan fydd dysgwr yn cael addysg a hyfforddiant (nid mewn achosion lle bydd dysgwr yn treulio penwythnos gyda rhiant mewn man gwahanol i’w gyfeiriad yn ystod yr wythnos ysgol). Gellir cael mwy o gyngor a ffurflenni cais ar gyfer cludiant o ddau gyfeiriad oddi wrth yr Uned Cludiant Teithwyr.
Caiff mwyafrif y disgyblion sydd â hawl i gael cludiant ysgol am ddim eu cludo ar gerbydau sydd wedi’u contractio’n benodol i'r Awdurdod. Fodd bynnag, mae’n bosibl y gwneir defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Mewn rhai amgylchiadau efallai y rhoddir lwfans milltiroedd ar gyfer rhan o’r daith neu’r daith gyfan (gweler pwynt 3 isod).
Nid yw bob amser yn bosibl trefnu bod llwybrau’r cerbydau yn pasio’n agos at gartrefi’r disgyblion, ac efallai na fydd bob amser yn bosibl trefnu bod disgyblion yn mynd ar y llwybr bws agosaf at eu cyfeiriad cartref. Mae rhieni felly yn gyfrifol am wneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer cludo dysgwyr yn ôl ac ymlaen o’r arosfan fysiau ddynodedig. Fel arfer ni fydd hynny ymhellach na 1.5 milltir.
Darperir cludiant am ddim ar y ddealltwriaeth y bydd y disgyblion yn ymddwyn mewn modd sy’n dangos parch at gyd-ddisgyblion, eiddo a diogelwch pawb. Rhaid i bob un sy’n ymwneud â darparu a defnyddio cludiant ysgol gadw at y “Côd Ymddygiad ar gyfer Teithio o’r Cartref i’r Ysgol/Coleg”. Gellir cael copïau o’r Côd yn www.sirgar.gov.uk/Cymraeg/addysg/ysgolion neu drwy wneud cais i’r Awdurdod.
Mae'r gan yr Awdurdod hefyd bolisi dewisol i ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr rhwng 16 ac 19 oed os ydynt yn mynychu ysgol ddynodedig yr AALl neu’r ysgol/coleg agosaf ac yn byw dros y pellter cerdded statudol o 3 milltir. Noder na wneir darpariaeth ar gyfer cludo disgybl 16 i 19 oed o ddau gyfeiriad.