Prydau Ysgolion Cynradd
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Prydau Ysgolion Cynradd 
 Mae Gwasanaeth Arlwyo Sir Gaerfyrddin yn darparu prydau ysgol ar gyfer 115 o ysgolion cynradd yn y Sir. Ar gyfartaledd, mae oddeutu 62% o ddisgyblion yn cael prydau ysgol sy'n golygu ein bod ni fel awdurdod â'r nifer uchaf yn y wlad.  

Am £2.00 yn unig y dydd, bydd eich plentyn yn cael prif gwrs a phwdin. Beth mwy gallech chi ofyn amdano?? 

Mae pryd ysgol yn cyfrif am draean o faeth dyddiol eich plant a bellach gall plant fanteisio ar rai o'r ciniawau ysgol mwyaf iach posibl. Ond er bod y cinio ysgol a ddarperir heddiw yn fwy iach nag erioed, maent yn dal i gynnwys rhai o'r hen ffefrynnau blasus megis cinio rhost cig eidion, cig oen neu borc a chyrri cyw iâr. Yn ogystal, mae'r Adran Arlwyo yn darparu bwyd ar gyfer llysieuwyr.

Caiff pob bwydlen ei mesur yn erbyn safonau cenedlaethol llym wedi'u cynhyrchu gan raglen o'r enw Saffron a fydd yn dod i rym yn gyfreithiol ym mis Medi 2012 felly drwy ddewis prydau ysgol, mae eich plant yn sicr o gael pryd blasus a chytbwys a fydd yn rhoi digon o egni iddynt ar gyfer y prynhawn.

Mae pryd ysgol yn cyfrif am draean o faeth dyddiol eich plant a bellach gall plant fanteisio ar rai o'r ciniawau ysgol mwyaf iach posibl. Ond er bod y cinio ysgol a ddarperir heddiw yn fwy iach nag erioed, maent yn dal i gynnwys rhai o'r hen ffefrynnau blasus megis cinio rhost cig eidion, cig oen neu borc a chyrri cyw iâr. Yn ogystal, mae'r Adran Arlwyo yn darparu bwyd ar gyfer llysieuwyr.

Dywedodd Jamie Oliver:- ‘awgrymwyd ers amser bod plant sy'n cael eu bwydo'n well yn cyflawni'n well ac mae ymchwil diweddar yn cefnogi hyn ac wedi profi waeth beth yw cefndir plant, mae pryd twym, maethlon amser cinio yn gwella eu hymddygiad a'u gallu i ganolbwyntio yn yr ystafell ddosbarth yn y prynhawn.' 

Mae ein prydau i gyd yn cael eu paratoi yn ffres bob dydd gan ddefnyddio cynhwysion o ansawdd da. Ein nod yw sicrhau y gellir paratoi pryd iach a maethlon i bob disgybl ac y darperir ar gyfer y rhai sy'n llysieuwyr a'r rhai sydd â diet arbennig hefyd.

Caiff pob bwydlen ysgol uwchradd ei mesur yn erbyn safonau cenedlaethol llym wedi'u cynhyrchu gan raglen o'r enw Saffron a fydd yn dod i rym yn gyfreithiol ym mis Medi 2013.  Caiff dadansoddiad maeth ei gynnal yn rheolaidd drwy raglen Saffron. 

Yn ogystal â darparu pryd ysgol iach, mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn trefnu diwrnodau ar sail thema drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â chystadlaethau er mwyn annog disgyblion i gymdeithasu ac i roi cynnig ar brydau newydd nad ydynt wedi eu profi o'r blaen. 

Mae croeso ichi gysylltu â ni os oes gan eich plentyn ofynion deiet arbennig oherwydd gall yr adran baratoi bwyd arbennig iddo/iddi. Cysylltwch â'r Adran Addysg a Phlant drwy ffonio (01267) 246537 i gael rhagor o wybodaeth.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 13/5/2013