
Yn Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin, gallwch chi fenthyg llyfrau, llogi cryno ddisgiau a DVD's, cael mynediad i'r rhyngrwyd neu ddod o hyd i wybodaeth.
A wyddech chi: Bod dros hanner miliwn o lyfrau ar gael yn 3 llyfrgell ranbarthol, 18 llyfrgell gangen a 5 llyfrgell deithiol Sir Gaerfyrddin?
Gallwch fenthyg llyfrau, llyfrau llafar ac e-lyfrau llafar yn rhad ac am ddim.
Os ydych chi eisiau cael mynediad i'r rhyngrwyd AM DDIM neu gael gwybodaeth ar unrhyw bwnc, o Aardvark i Zymurgy, gall eich llyfrgell leol helpu!
Am dâl bychan, gallwch chi fenthyg cryno ddisgiau; o Bach i Verdi, Abba i'r Zutons, a cherddoriaeth sydd at ddant pawb.
Bod y dewis o DVD's sydd ar gael i'w benthyg yn amrywio o ffilmiau clasurol i'r ffefrynnau diweddaraf ar y teledu.
Mae croeso i unrhyw un sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin ymuno â Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin.
E-bost: llyfrgell@sirgar.gov.uk neu cysylltwch â'ch llyfrgell leol