English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 11/10/2011
Gwasanaeth Ieuenctid  

Ein nod yw sicrhau bod yr holl bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin yn cael y ddarpariaeth orau posibl o ran gwaith ieuenctid, a galluogi pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial a chyfrannu at gymdeithas ym mhob modd posibl. Er mwyn cyrraedd ein nod byddwn yn darparu gwasanaethau i bob un rhwng 11 a 25 oed, gan roi sylw penodol i'r grŵp oedran rhwng 11 ac 19 oed. 

Anghenion pobl ifanc fydd yn cael blaenoriaeth yn ein gwaith, a byddwn yn eu galluogi i ddylanwadu ar y penderfyniadau ynghylch y gwasanaethau sy'n effeithio ar y grŵp oedran rhwng 11 a 25 oed. Bydd y gwaith hwn yn cael ei lywio gan ein rôl strategol unigryw, a byddwn yn cydweithio â chyrff eraill sy'n darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin.

Ein Diben
Mae gwaith ieuenctid yn weithgaredd addysgol sy'n fodd i hybu datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc. Er bod ein gwaith yn ategu ac yn hyrwyddo dysgu ffurfiol, mae  gennym hefyd rôl hanfodol o ran y dysgu anffurfiol sy'n digwydd y tu allan i'r ysgol, i'r coleg, neu i amser hyfforddiant. Byddwn yn ceisio sicrhau bod pobl ifanc:

  • Yn iach 
  • Yn cadw’n ddiogel 
  • Yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau y maent yn eu mwynhau
  • Yn dysgu sgiliau newydd a bod modd iddynt gael yr hyn y maent yn ei gyflawni wedi ei achredu a'i gydnabod
  • Yn cael cyfleoedd i gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau
  • Yn gallu ailgydio mewn addysg a hyfforddiant os nad ydynt wedi ffynnu mewn ysgol ffurfiol
  • Yn gysurus yn ariannol a bod eu lles cymdeithasol yn cael ei hybu
  • Yn cyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt

Ein Gwerthoedd

  • Bod pobl ifanc yn dewis ymuno â ni, a hynny, ymhlith pethau eraill, o achos eu bod am ymlacio, cwrdd â ffrindiau, a chael hwyl. 
  • Bod ein gwaith yn parchu hunaniaeth ddiwylliannol a chymunedol ehangach pobl ifanc, ac yn rhoi ystyriaeth briodol i hynny.
  • Bod ein gwaith yn canolbwyntio ar bobl ifanc fel unigolion, gan weld gwerth ynddynt fel ag y maent ar hyn o bryd, ac nid ond am yr hyn y gallent fod yn y dyfodol.
  • Bod ein gwaith yn rhoi sylw i sut y mae pobl ifanc yn teimlo, yn ogystal â'u gwybodaeth, eu sgiliau, eu hagweddau, eu gwerthoedd, a'u daliadau.
  • Bod ein gwaith yn rhoi grym i bobl ifanc allu wneud dewisiadau cytbwys am yr hyn sy'n cael effaith ar eu bywydau.
  • Bod ein gwaith yn cael ei seilio ar berthynas gadarn lle mae'r ddwy ochr yn parchu ei gilydd.
  • Bod cyfleoedd cyfartal wrth wraidd gwaith ieuenctid.
  • Bod gan bobl ifanc hawliau a chyfrifoldebau.
  • Bod ein gwaith yn gynhwysol.
  • Bod cynaliadwyedd cymunedau a rhinweddau unigol pobl ifanc yn cael eu hyrwyddo drwy ein gwaith.
  • Bod dinasyddiaeth fyd-eang a lleol yn cael eu hyrwyddo yn ein gwaith.
  • Bod gan bobl ifanc lawer i'w 'ddysgu' i oedolion. 
  • Bod ein gweithwyr ieuenctid yn ymdrechu'n gyson i ddiweddaru a gwella eu gwybodaeth, eu sgiliau, a'u gallu i wneud y gwaith. 
  • Yn gysurus yn ariannol a bod eu lles cymdeithasol yn cael ei hybu
  • Yn cyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt