Adran Lles Addysg

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Adran Lles Addysg 

Prif Gyfrifoldebau'r Gwasanaeth Lles Addysg

Hybu presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol, fel y disgrifiwyd yng ngweddill y daflen. Hefyd estyn cymorth a chyngor ynghylch y rheoliadau sy'n ymwneud â:

  • Gwaharddiadau Disgyblion o'r Ysgol
  • Anghenion Arbennig
  • Amddiffyn Plant
  • Cyflogi Plant
  • Plant yn perfformio
  • Gwarchodwyr
  • Addysg heblaw mewn ysgol

Darperir y Gwasanaeth Lles Addysg gan yr Awdurdod Addysg Lleol er mwyn helpu, cynghori a bod yn gyfaill i bob rhiant a phob plentyn er mwyn sicrhau presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol.

Er mwyn gwneud hyn, mae'n gweithio mewn partneriaeth â:

  • Disgyblion a'u teuluoedd
  • Ysgolion
  • Gweithwyr proffesiynol eraill, e.e. Gweithwyr Cymdeithasol, Gwasanaethau Ieuenctid, Seicolegwyr Addysg, ac ati.

Fel arfer, mae'r Gwasanaeth yn ymwneud â sefyllfa pan fo problemau yn yr ysgol; yn aml, mae'r problemau'n ymwneud â disgyblion sydd yn absennol o'r ysgol ac/neu'n mynd i drafferth yn yr ysgol.

Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i'r Gwasanaethau droi at y gyfraith i'w helpu i ddatrys y broblem. Gallai hyn olygu:

  • Erlyn Rhieni
  • Cyflwyno cais am Orchymyn Goruchwylio Addysgol mewn perthynas â'r plentyn
  • Gorchymyn Mynychu'r Ysgol

Mae gan bob ysgol ei Swyddog Lles Addysg ei hun.

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan eich Swyddog Lles Addysg?

Bydd y Swyddog Lles Addysg bob amser yn:

  • Eich trin chi fel unigolyn
  • Gwrando ar eich barn
  • Sicrhau bod yr hyn a ddywedwch yn cael ei gadw'n gyfrinachol (ac eithrio pan fo rhywun yn cael niwed)
  • Ymgynghori â chi bob cam
  • Cadw apwyntiadau

Bydd y Swyddog Lles Addysg yn:

  • Gweithio gyda chi, eich rhieni a'ch ysgol er mwyn ceisio datrys y broblem.
  • Rhoi blaenoriaeth i'ch buddiannau chi. Dydy hyn ddim yr un fath â gwneud popeth rydych chi neu eich rhiant/rhieni ei eisiau.
  • Disgwyl ichi ac i'ch rhiant/rhieni gytuno ag unrhyw awgrym rhesymol a wneir, yn enwedig os ydych chi'n destun Gorchymyn Goruchwylio Addysg.
  • Disgwyl cael ei drin/thrin yn yr un ffordd ag y mae ef/hi yn eich trin chi.

Canllawiau ynghylch Cyflogi Plant

Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn monitro ac yn cynnig cyngor ynghylch cyflogi plant. Gellir lawrlwytho'r ffurflenni amgaeedig i'w defnyddio gan rieni/gwarcheidwaid/cyflogwyr er mwyn cael gwybodaeth am y gofynion statudol ar gyfer cyflogi plant.


Cysylltwch â ni

t: 01267 246591
t: 01267 246589
t: 01267 246596

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 11/6/2012