
Gall rhieni/gwarcheidwaid/cyflogwyr lawrlwytho'r ffurflenni a atodwyd a'u defnyddio i wneud cais am yr hawlen weithio angenrheidiol ar gyfer pobl ifanc 13-16 blwydd oed sy'n dymuno gwneud gwaith rhan-amser tra byddant yn dal o oedran ysgol gorfodol.
Mae gweithio heb hawlen, am gyflog neu yn ddi-dâl, yn erbyn y gyfraith ac mae cyfyngiadau ar yr oriau gwaith a'r dyletswyddau a ganiateir. Mae unrhyw ddarpariaeth y tu hwnt i'r meini prawf hyn yn erbyn y gyfraith.
Pan fydd y ffurflen gais wedi'i chwblhau a'i dychwelyd atom i'w chymeradwyo, bydd y cyflogwr yn cael hawlen wedi'i lamineiddio y bydd yn rhaid ei chadw mewn man diogel. Bydd y plentyn hefyd yn cael carden hawlen weithio.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Adain Lles Addysg, yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant drwy:
Ffôn: 01267 246591
Ffôn: 01267 246589
Ffôn: 01267 246596