Gwybodaeth i Rieni
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 17/6/2011
Gwybodaeth i Rieni 

  1.    Cost yr Ymweliad  

Gofynnwch i Bennaeth yr ysgol am fanylion prisiau. 

2.    Staffio – Mae’r disgyblion yn cael eu goruchwylio gan athrawon eu hysgolion eu hunain gyda chymorth staff y Ganolfan.  Yn ystod y gweithgareddau rydyn ni’n dilyn y cymarebau staff/disgybl a argymhellir gan baalpe (Cymdeithas Cynghorwyr a Darlithwyr Addysg Gorfforol Prydain) neu gan gyrff llywodraethu’r Chwaraeon Awyr Agored e.e. Undeb Canwio Prydain neu yn unol â’r manylion yn Asesiadau Risg y Ganolfan. 

3.   Dillad – Argymhellir bod y plant yn dod â’r eitemau canlynol o ddillad a phethau personol:- 

  • Pethau ymolchi, gan gynnwys dau dywel a diaroglydd ‘roll on’
  • Pethau cysgu yn cynnwys sach gysgu, chas gobennydd a slipers.
  • Llen weli sengl wedi ei ffitio a philo.
  • Esgidiau cryf – Wellingtons neu esgidiau cerdded
  • Trenars.
  • Sawl pâr o sanau a dilliad isaf.
  • Siwmperi/‘fleeces’
  • Trowseri (o leiaf un trowser nad yw’n bâr o jîns).
  • Cap a menig gwlân (cap yn yr haf).
  • Trowser a chot dal dwr (paratowch i fod yn wlyb ag yn fwdlyd !)
  • Dillad nofio.
  • Potel ddwr personol
  • Câs pensil gyda llocio a pensils.      

           D.S. Rowch label glir ar holl eiddo’ch plentyn. 

Dylech ddweud wrth y plant am ludo rhestr y tu mewn i glawr eu cas i nodi popeth sydd ynddo.  Wedyn maen nhw’n gallu defnyddio’r rhestr i wneud yn siŵr fod popeth ganddyn nhw wrth bacio i ddod adre. Bydd hynny’n golygu eu bod yn llai tebyg o adael eiddo yn y Ganolfan. 

D.S. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud siwr bod y plant yn mynd adref a’u holl eiddo. A gwnewch atgoffa’ch plentyn i wneud siwr ei bod yn pacio pob peth i lleihau ein gwaith ar bore dydd Llun. Diolch am eich cymorth.   

4.    Arian poced - Argymhellir bod y disgyblion yn dod â rhywfaint o arian poced mewn arian mân, achos mae gan y Ganolfan siop losin ac anrhegion.

   

5.    Stampiau - Bydd y plant yn ysgrifennu adref.  Mae cerdiau post ar werth yn y siop ond  gallwch ddanfon rhau stampiau dosbarth cyntaf.  

    • Fel rheol gyffredinol, dydyn ni ddim yn annog y plant i ffonio adref yn ystod yr wythnos. Ond mae hyn yn cael ei adael i ddisgresiwn athro neu athrawes y disgybl. 

6.   Trefn y Dydd

Brecwast twym                                              8.30 a.m.
Gweithgareddau’n dechrau                            9.30 a.m.
Cinio                                                             12.30 p.m. (cinio neu picnic)Dychwelyd i’r Ganolfan                                  tua 5.00 p.m.
Cinio’r nos                                                      5.30  p.m.
Diod a byrbryd                                                tua 9.00 p.m.
Difodd y goleuadau                                        tua 10.00 p.m.  

Ddylai ymweliad â Phentywyn ddim cael ei drin fel profiad ar ei ben ei hun, ond yn hytrach fel rhan annatod o addysg y plentyn.  Prif nod y Ganolfan yw rhoi profiad uniongyrchol a fydd yn symbylu ac yn cynnal ysgolion ac athrawon yr Awdurdod wrth fodloni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.

 

Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn y Ganolfan yn cynnig:-

(a)   Ymagweddau trawsgwricwlaidd at bynciau craidd a phynciau sylfaen y Cwricwlwm Cenedlaethol.

(b)   Cyfleoedd i’r disgyblion arsylwi, cofnodi, dadansoddi a dehongli eu hymchwiliadau eu hunain.

(c ) Cyfle i feithrin medrau personol a chymdeithasol drwy ddatrys problemau, gwneud

      penderfyniadau a byw.

(d)   Defnyddio’r amgylchedd ar gyfer medrau corfforol megis cyfeiriadu, sgïo’r tonnau, cerdded yr arfordir.

(e)   Cyfle i’r disgyblion gymharu ac arsylwi a fydd yn arwain at feithrin gofal dros yr amgylchedd.

     

Yn ystod eu hamser ym Mhentywyn, bydd y disgyblion yn ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys  abseilio a dringo ar y twr yn nhiroedd y Ganolfan,  saethyddiaeth, sgïo tonnau, cyfeiriadu  a cerdded yr arfordir.

 

Mae’n rhaid pwysleisio y bydd y gweithgareddau hyn yn dibynnu ar y tywydd a’r adeg o’r flwyddyn ac ar y pwnc sy’n cael ei astudio.

 

Astudiaethau Maes – sy’n gallu cynnwys planhigion ac anifeiliaid y glannau, coedydd, teithiau cerdded lleol ar yr arfordir, astudio ardal Pentywyn neu Dalacharn.

Ymweliad – mae’r disgyblion fel rheol yn treulio un diwrnod y tu allan i’r Ganolfan drwy ymweld ag un o’r mannau canlynol:  Ynys Sgomer, Castell Penfro, Bryniau’r Preseli, Amgueddfeydd, Acwaria, Tyddewi a detholiad o deithiau cerdded ar yr arfordir.

 

Gweithgareddau Antur – Mae’r pwnc yma wedi’i gydnabod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae ymweliad â’r Ganolfan yn gyfle i’r disgyblion brofi cyffro, hwyl a gwir deimlad o lwyddiant.

 

Diogelwch yw’r peth pwysicaf un a dim ond staff profiadol sydd â chymwysterau da sy’n cael addysgu’r gweithgareddau hyn.