1. Cost yr Ymweliad
Gofynnwch i Bennaeth yr ysgol am fanylion prisiau.
2. Staffio – Mae’r disgyblion yn cael eu goruchwylio gan athrawon eu hysgolion eu hunain gyda chymorth staff y Ganolfan. Yn ystod y gweithgareddau rydyn ni’n dilyn y cymarebau staff/disgybl a argymhellir gan baalpe (Cymdeithas Cynghorwyr a Darlithwyr Addysg Gorfforol Prydain) neu gan gyrff llywodraethu’r Chwaraeon Awyr Agored e.e. Undeb Canwio Prydain neu yn unol â’r manylion yn Asesiadau Risg y Ganolfan.
3. Dillad – Argymhellir bod y plant yn dod â’r eitemau canlynol o ddillad a phethau personol:-
-
Pethau ymolchi, gan gynnwys dau dywel a diaroglydd ‘roll on’
-
Pethau cysgu yn cynnwys sach gysgu, chas gobennydd a slipers.
-
Llen weli sengl wedi ei ffitio a philo.
-
Esgidiau cryf – Wellingtons neu esgidiau cerdded
-
Trenars.
-
Sawl pâr o sanau a dilliad isaf.
-
Siwmperi/‘fleeces’
-
Trowseri (o leiaf un trowser nad yw’n bâr o jîns).
-
Cap a menig gwlân (cap yn yr haf).
-
Trowser a chot dal dwr (paratowch i fod yn wlyb ag yn fwdlyd !)
-
Dillad nofio.
-
Potel ddwr personol
-
Câs pensil gyda llocio a pensils.
D.S. Rowch label glir ar holl eiddo’ch plentyn.
Dylech ddweud wrth y plant am ludo rhestr y tu mewn i glawr eu cas i nodi popeth sydd ynddo. Wedyn maen nhw’n gallu defnyddio’r rhestr i wneud yn siŵr fod popeth ganddyn nhw wrth bacio i ddod adre. Bydd hynny’n golygu eu bod yn llai tebyg o adael eiddo yn y Ganolfan.
D.S. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud siwr bod y plant yn mynd adref a’u holl eiddo. A gwnewch atgoffa’ch plentyn i wneud siwr ei bod yn pacio pob peth i lleihau ein gwaith ar bore dydd Llun. Diolch am eich cymorth.
4. Arian poced - Argymhellir bod y disgyblion yn dod â rhywfaint o arian poced mewn arian mân, achos mae gan y Ganolfan siop losin ac anrhegion.
5. Stampiau - Bydd y plant yn ysgrifennu adref. Mae cerdiau post ar werth yn y siop ond gallwch ddanfon rhau stampiau dosbarth cyntaf.
6. Trefn y Dydd
Brecwast twym 8.30 a.m.
Gweithgareddau’n dechrau 9.30 a.m.
Cinio 12.30 p.m. (cinio neu picnic)Dychwelyd i’r Ganolfan tua 5.00 p.m.
Cinio’r nos 5.30 p.m.
Diod a byrbryd tua 9.00 p.m.
Difodd y goleuadau tua 10.00 p.m.
Ddylai ymweliad â Phentywyn ddim cael ei drin fel profiad ar ei ben ei hun, ond yn hytrach fel rhan annatod o addysg y plentyn. Prif nod y Ganolfan yw rhoi profiad uniongyrchol a fydd yn symbylu ac yn cynnal ysgolion ac athrawon yr Awdurdod wrth fodloni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn y Ganolfan yn cynnig:-
(a) Ymagweddau trawsgwricwlaidd at bynciau craidd a phynciau sylfaen y Cwricwlwm Cenedlaethol.
(b) Cyfleoedd i’r disgyblion arsylwi, cofnodi, dadansoddi a dehongli eu hymchwiliadau eu hunain.
(c ) Cyfle i feithrin medrau personol a chymdeithasol drwy ddatrys problemau, gwneud
penderfyniadau a byw.
(d) Defnyddio’r amgylchedd ar gyfer medrau corfforol megis cyfeiriadu, sgïo’r tonnau, cerdded yr arfordir.
(e) Cyfle i’r disgyblion gymharu ac arsylwi a fydd yn arwain at feithrin gofal dros yr amgylchedd.
Yn ystod eu hamser ym Mhentywyn, bydd y disgyblion yn ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys abseilio a dringo ar y twr yn nhiroedd y Ganolfan, saethyddiaeth, sgïo tonnau, cyfeiriadu a cerdded yr arfordir.
Mae’n rhaid pwysleisio y bydd y gweithgareddau hyn yn dibynnu ar y tywydd a’r adeg o’r flwyddyn ac ar y pwnc sy’n cael ei astudio.
Astudiaethau Maes – sy’n gallu cynnwys planhigion ac anifeiliaid y glannau, coedydd, teithiau cerdded lleol ar yr arfordir, astudio ardal Pentywyn neu Dalacharn.
Ymweliad – mae’r disgyblion fel rheol yn treulio un diwrnod y tu allan i’r Ganolfan drwy ymweld ag un o’r mannau canlynol: Ynys Sgomer, Castell Penfro, Bryniau’r Preseli, Amgueddfeydd, Acwaria, Tyddewi a detholiad o deithiau cerdded ar yr arfordir.
Gweithgareddau Antur – Mae’r pwnc yma wedi’i gydnabod yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae ymweliad â’r Ganolfan yn gyfle i’r disgyblion brofi cyffro, hwyl a gwir deimlad o lwyddiant.
Diogelwch yw’r peth pwysicaf un a dim ond staff profiadol sydd â chymwysterau da sy’n cael addysgu’r gweithgareddau hyn.