Mae 'Babs' yn cyrraedd ar 20 Mai.
Dewch i gael golwg ar hanes Pentywyn a’r traeth bydenwog (“Sands of Speed”). Mae’r amgueddfa yn edrych dros y traeth hir lle bu'r holl ymdrechion i dorri record cyflymder y byd ynghyd â rasys beiciau modur dirifedi.

Yn arferol, y brif arddangosfa o fis Gorffennaf tan fis Medi yw 'Babs', y car rasio y torrodd Parry Thomas record y byd ynddo yn 1926. Claddwyd 'Babs' yn y tywod ar draeth Pentywyn ar ôl i Thomas gael ei ladd wrth geisio adennill y record y flwyddyn ganlynol. Yno y bu hi am 42 o flynyddoedd nes iddi gael ei chodi a'i hadfer i'w hen ogoniant. Hefyd mae beiciau modur a fu’n rasio ym Mhentywyn yn y gorffennol i’w gweld yn yr amgueddfa.
Mae cyfleusterau’r amgueddfa yn cynnwys:
• Lle parcio i’r anabl
• Mynediad ar gyfer pobl anabl
• Dolen sain
• Caniateir cŵn tywys
• Siop
• Lleoliad ger y traeth
Dyddiadau Agor 2013
Fydd yr amgueddfa hon ar agor o
Ddydd Gwener, 29 Mawrth (Gwener y Groglith) i Ddydd Sul, 29 Medi
ond byddwn a'r gau bob Dydd Llun, heblaw y gwyl banc*.
*6 Mai, 27 Mai, 26 Awst
Oriau Agor 2013
Dydd Mawrth - Dydd Sul: 10 am – 1 pm & 1.30 pm – 5 pm