BWRDD GWEITHREDOL
14 HYDREF 2002
PRESENNOL: |
Cynghorydd Mrs. M. Gravell (Cadeirydd) |
Cynghorwyr: W.J.W. Evans, Nigel H. Evans, Mrs. P.J. Edmunds, W.G. Hopkins, D. Huw John, Mrs. P.A. Palmer, H.C. Scourfield, a J.E. Williams. | |
Roedd y swyddogion canlynol hefyd yn bresennol:- | |
Mr. Mark James - Prif Weithredwr Mr. R. Sully - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Economaidd Mr. L. Thomas - Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Mr. N. Davies - Pennaeth Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru Mr. S. Duncan - Pennaeth Ymgynghoriaeth Gorfforaethol Mr. B. Parker - Pennaeth Polisi Corfforaethol Ms. C. Blackburn - Rheolwr Cyd-gysylltu Rhanbarthol Ms. C. Moore - Prif Gyfrifydd Mr. K. Cobain - Rheolwr Datblygu Strategol Ms. D. Williams - Swyddog y Wasg Ms. S. Jones - Swyddog Gwasanaethau Democrataidd | |
(Y Siambr, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin - 10.00 a.m. - 10.15 a.m.) | |
Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd Mrs. M.H. Thomas.
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fudd personol.
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r adroddiad oedd yn cynnwys manylion Ffurflen Mynegi Diddordeb Cynllun Gweithredu Lleol Partneriaeth Amcan Un Sir Gaerfyrddin mewn perthynas â Chanolfan Beicio Mynydd Coedwig Brechfa.
Nododd y Bwrdd yr ymgynghorwyd â Menter Coedwigaeth, Cyngor Chwaraeon Cymru a Bwrdd Croeso Cymru. Nid oedd angen ymgynghori ag aelodau lleol, cynghorau cymuned/tref, na chynrychiolwyr ochr y staff a sefydliadau eraill.
Cyflwynodd Pennaeth Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru adroddiad ar addasiadau i'r symiau o arian cyfatebol o amrywiol ffynonellau ers paratoi'r adroddiad. Dywedodd mai testun siom arbennig oedd nodi bod Cyngor Chwaraeon Cymru wedi dweud na fyddai yn awr mewn sefyllfa i gynnig cymorth ariannol i'r prosiect.
Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod ynglyn â'r rhesymau a roddodd y Cyngor Chwaraeon na allai ariannu'r prosiect, dywedodd Pennaeth Canolfan Ewropeaidd Gorllewin Cymru mai'r unig reswm a roddwyd oedd nad ystyriwyd bod y prosiect yn fater o flaenoriaeth. Awgrymodd yr aelodau y dylid gofyn i Gyngor Chwaraeon Cymru roi ei resymau dros beidio â chefnogi'r prosiect mewn ysgrifen.
PENDERFYNWYD
3.1. cadarnhau a chefnogi datblygu cais Amcan Un llawn mewn perthynas â Chanolfan Beicio Mynydd Coedwig Brechfa.
3.2. gofyn i Gyngor Chwaraeon Cymru ddarparu datganiad ysgrifenedig yn egluro pam na allai gefnogi'r prosiect.
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r adroddiad oedd yn cynnwys manylion Ffurflen Mynegi Diddordeb Cynllun Gweithredu Amcan Un Sir Gaerfyrddin mewn perthynas â Rhwydwaith Dysgu Sir Gaerfyrddin.
Nododd y Bwrdd yr ymgynghorwyd â Choleg Sir Gâr, TRAC, Cyngor Tref Gwledig Llanelli, Foothold, Consortiwm Cymraeg i Oedolion, Coleg y Drindod, Siambr Fasnach Sir Gaerfyrddin a Gyrfaoedd Cymru. Nid oedd angen ymgynghori ag aelodau lleol, cynghorau cymuned/tref, na chynrychiolwyr ochr y staff a sefydliadau eraill.
Dywedodd Pennaeth Canolfan Ewropeaidd Gorllewin fod cadarnhad wedi dod i law oddi wrth bob un o'r partneriaid, ers paratoi'r adroddiad, y byddai arian cyfatebol yn cael ei ddarparu ganddynt.
PENDERFYNWYD cadarnhau a chefnogi datblygu cais Amcan Un llawn mewn perthynas â Rhwydwaith Dysgu Sir Gaerfyrddin.
Derbyniodd y Bwrdd yr adroddiad yn nodi sefyllfa ddiweddaraf cyllideb yr Awdurdod ar gyfer 2002- 2003.
Nid oedd angen ymgynghori ag aelodau lleol, cynghorau cymuned/tref, partneriaid perthnasol na chynrychiolwyr ochr y staff a sefydliadau eraill.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Hysbyswyd y Bwrdd fod Rhan IIA Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 wedi dod i rym yng Nghymru ar 1 Gorffennaf, 2001. Roedd hyn yn sefydlu trefn statudol newydd ar gyfer nodi ac adfer tir halogedig a'i gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol archwilio ei ardal i benderfynu a oedd yno dir wedi'i halogi. Roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i baratoi Strategaeth Arolygu Tir Halogedig a'i hadolygu o dro i dro. Roedd y strategaeth arolygu yn rhoi manylion nodau, amcanion a blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer arolygu yn ogystal â nodi gweithdrefnau ar gyfer blaenoriaethu safleoedd a chynnal dyletswyddau manwl archwilio safleoedd. Roedd y ddogfen Strategaeth hefyd yn nodi sut yn union y byddid yn adolygu'r broses. Byddai'n rhaid i'r strategaeth fabwysiedig fod yn ei lle erbyn mis Hydref, 2002, er mwyn cwrdd â thargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Ymgynghorwyd ynglyn â'r Strategaeth am gyfnod o 8 wythnos a derbyniwyd sylwadau gan gyfanswm o chwe chorff. Nodwyd eu manylion yn y prif adroddiad, ynghyd ag argymhellion ar gyfer sut i ddiwygio'r strategaeth ddrafft.
Nododd y Bwrdd fod y ddogfen wedi'i dosbarthu i Asiantaeth yr Amgylchedd a chyrff priodol eraill yn ogystal â'r aelodau a chynghorau cymuned/tref. Nid oedd angen ymgynghori â chynrychiolwyr ochr y staff a sefydliadau eraill.
PENDERFYNWYD y dylid cynnwys y newidiadau a awgrymwyd yn y ddogfen a mabwysiadu'r Strategaeth Arolygu Tir Halogedig i ddibenion ei gweithredu.
Hysbyswyd y Bwrdd fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi arweiniad ar baratoi strategaethau yn Awst 2002, ac roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu Strategaeth Gwastraff Trefol erbyn Tachwedd 2003. Roedd yr adroddiad yn disgrifio'r prif faterion yr oedd angen eu gweithredu er mwyn cyflwyno Strategaeth Rheoli Gwastraff Integredig yn Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod cynllun model a awgrymwyd ar gyfer y tymor canolig (2005 - 2007) yn nodi bod angen cyflwyno cynllun model tymor byr yn raddol, ac roedd hwnnw wedi'i atgynhyrchu yn yr adroddiad.
Nododd y Bwrdd yr ymgynghorwyd ag aelodau drwy'r Sir, ynghyd â chynghorau cymuned/tref. Ymgynghorwyd hefyd â phartneriaid perthnasol a chynrychiolwyr ochr y staff a sefydliadau eraill.
Mewn ymateb i gwestiwn oddi wrth aelod ynglyn â mesuriadau arfaethedig y derbynyddion gwastraff, nododd y Bwrdd mai biniau olwyn 180 litr oedd y dewis a gâi ei ffafrio ar hyn o bryd ar gyfer gwastraff na ellid ei wahanu.
Hysbysodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu Economaidd y Bwrdd y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru yn trefnu cyhoeddusrwydd i'r cynllun fel rhan o'r strategaeth genedlaethol, gyda'r Cyngor yn gyfrifol am sioeau teithiol lleol ac ati.
PENDERFYNWYD:-
7.1. Gwneud trefniadau i gyflwyno'r strategaeth wastraff yn raddol dros y pum mlynedd nesaf er mwyn cwrdd â'r targedau ailgylchu uniongyrchol.
7.2. Rhoi cydnabyddiaeth briodol i'r cyfyngiadau ar y gyllideb yn sgîl deddfwriaeth newydd ar wastraff.
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r adroddiad oedd yn disgrifio cyd-destun a chwmpas yr Adolygiad o Bwyllgorau Rhanbarthol ac yn cynnwys y rhaglen ymgynghori arfaethedig i'w chymeradwyo. Trafodwyd prif faterion yr adroddiad â'r Grwp Ymgynghorol Moderneiddio Llywodraeth Leol yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Medi, 2002 ac roedd crynodeb byr o ymateb y Grwp ynghlwm i'r adroddiad.
Nododd y Bwrdd y byddai'r Cyngor yn ymgynghori ag aelodau a chynghorau cymuned/tref drwy'r Sir. Byddai'n ymgynghori â Fforymau/Hwyluswyr Rhanbarthol, Heddlu Dyfed Powys a phartneriaid perthnasol eraill fel rhan o'r adolygiad. Nid oedd angen ymgynghori â chynrychiolwyr ochr y staff na sefydliadau eraill.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cwmpas yr Adolygiad o Bwyllgorau Rhanbarthol a'r Rhaglen Ymgynghori.
Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r adroddiad ar y polisi trafnidiaeth ysgol arfaethedig i ategu'r gwaith o gyflwyno'r Strategaeth Cynllunio Llefydd Ysgol yn raddol.
Nododd y Bwrdd yr ymgynghorwyd â'r aelodau, cynghorau cymuned/tref, partneriaid perthnasol a chynrychiolwyr ochr y staff a sefydliadau eraill drwy'r sir.
PENDERFYNWYD
9.1. cymeradwyo'r polisi canlynol:
Yn dilyn cyhoeddi hysbysiad statudol gan y Cyngor Sir yn cynnig aildrefnu darpariaeth addysgol mewn ardal benodol yna bydd y Cyngor Sir yn ystyried darparu cymorth i ddisgyblion deithio yn rhad ac am ddim i'r ysgolion amgen hynny a enwyd yn yr hysbysiad, yn ystod y cyfnod rhwng cyhoeddi'r hysbysiad a'r cyfnod pan ddaw'r hysbysiad i rym. Byddai angen cwrdd â'r meini prawf canlynol:
bod y disgybl wedi'i gofrestru yn un o'r ysgolion a enwir yn yr hysbysiad statudol,
bod yr ysgol y rhoddir cymorth iddi yn un y byddai gan y disgybl hawl i dderbyn trafnidiaeth iddi, yn dilyn gweithredu'r hysbysiad statudol,
bod y disgybl yn bodloni'r meini prawf eraill a sefydlwyd ym mholisi trafnidiaeth rhad ac am ddim y Cyngor,
bod y Cyngor Sir o'r farn fod darparu cymorth o fantais i'r Cyngor.
9.2. bod argymhellion i ddelio ag anghysonderau eraill yn cael eu cyflwyno maes o law.
PENDERFYNWYD: cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2002 a'u llofnodi fel cofnod cywir.