Cydnabyddiaeth

Hoffai'r awdur ddiolch i Fentrau Iaith Myrddin am gomisiynu'r astudiaeth hon ac i Gyngor Sir Caerfyrddin am noddi'r gwaith. Rwyf yn arbennig o ddyledus i Cefin Campbell, Heddyr Gregory a Derith Williams am lywio'r gwaith mor ddeheuig. Roedd cyfraniad Andrew Mackay i'r gwaith maes a gweinyddu'r arolwg yn anhepgor.

Hoffwn hefyd ddiolch i bob unigolyn a chymdeithas am eu parodrwydd i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon.

CYNNWYS

1. CYFLWYNIAD 2

2. Y CYD-DESTUN 3

3. YR ASTUDIAETH 5

3.1 Amcanion 5

3.2 Dulliau ymchwil 6

3.3 Yr adroddiad 7

4. NODWEDDION Y GYMUNED 7

5. GWEITHGARWCH CYMDEITHASOL 8

5.1 Mapio'r ddarpariaeth 9

5.2 Nodweddion gweithgarwch cymdeithasol 9

6. Y GYMRAEG MEWN GWEITHGARWCH 13 CYMDEITHASOL

6.1 Agweddau tuag at y Gymraeg 13

6.2 Y Gymraeg ym mywyd y cymdeithasau 14

7. CASGLIADAU AC ARGYMHELLION 18

1. CYFLWYNIAD

Nododd adroddiad Iaith Cyf ar waith y mentrau iaith Mentro Ymlaen mai:

Prif egwyddor adnabod anghenion cynllunio iaith yw adnabod anghenion unigolion a grwpiau penodol o fewn eu cyd-destun cymdeithasol.

Awgrymwyd y dylid sefydlu dulliau o gasglu gwybodaeth am:

arferion cymdeithasol, defnydd a gwerthoedd iaith unigolion a grwpiau penodol, a phrosesau a thueddiadau sosio-ieithyddol a sosio-economaidd.

ac mae angen canfod beth sy'n effeithio ar batrymau defnydd iaith. Mae cyflawni'r fath waith yn gryn her ac yn dasg gymhleth iawn o ystyried natur cydadwaith cymdeithasol yn Nghymru yn y mileniwm newydd hwn. Golyga hefyd fabwysiadu dulliau gwyddorau cymdeithasol o gasglu gwybodaeth ac archwilio cymhelliant ac arfer. Bydd hwn yr ymarfer yn cynnwys sawl elfen er mwyn gallu dod o hyd i wybodaeth fanwl a fyddai'n esgor ar ddadansoddiad trylwyr o sefyllfa'r Gymraeg mewn ystod eang o gymunedau ar draws Cymru.

Fe bendefynodd Mentrau Iaith Myrddin y dylid ymateb i'r her a osodwyd gan adroddiad Iaith Cyf a chydio yn y gwaith hwn o gasglu gwybodaeth. Mewn cyd-weithrediad â Chyngor Sir Gaerfyrddin penderfynwyd comisiynu astudiaeth ymchwil a fyddai'n dechrau agor cwr y llen ar batrymau defnyddio'r Gymraeg o fewn cydadwaith cymdeithasol dwy gymuned yn y sir. Dewiswyd seilio'r ymchwil ar yr ardaloedd sy'n cynnwys pen uchaf Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman lle gellid sylwi ar nodweddion amlwg o ddirywiad yn nefnydd o'r iaith Gymraeg a chyfleoedd am ymestyn y defnydd o'r Gymraeg.

Pwrpas y gwaith hwn a wnaed gan Gari Lewis yn rhinwedd ei swydd fel ymchwilydd annibynnol ar ran Mentrau Iaith Myrddin oedd archwilio natur y gweithgarwch cymdeithasol yn yr ardaloedd hyn a beth oedd sefyllfa'r Gymraeg o fewn y gweithgarwch hwn.

Darlunia'r adroddiad hwn y canfyddiadau a ddaeth i'r amlwg yn sgîl y gwaith hwn lle bu'n bosibl defnyddio'r dystiolaeth a gafwyd i amlinellu rhai ffeithiau pwysig am sefyllfa'r Gymraeg. Noda'r adroddiad hefyd rai argymhellion y byddai'n bosibl i'r Mentrau Iaith perthnasol gyda chefnogaeth y Cyngor Sir eu mabwysiadu a'u gweithredu.

2. CYD-DESTUN

Mae Dyffryn Aman yn un o gadarnleoedd y Gymraeg gyda dros 86% o siaradwyr Cymraeg yn byw mewn cymuned fel Cwarter Bach yn ôl y cyfrifiad diwethaf, ac hyd yn oed yn ardal drefol Rhydaman ceir 66% yn medru'r iaith.

Poblogaeth o tua 25,000 sydd gan Gwm Gwendraeth ardal y mae ganddo gefndir diwydiannol sydd wedi ei gweddnewid dros y blynyddoedd diwethaf gyda chau'r pyllau glo a fu'n sail i'r economi leol. Er bod tua 75% o'r trigolion yn siarad Cymraeg y mae'r iaith yn wynebu bygythiadau difrifol wrth i'r newidiadau sosio-economaidd ysigo seiliau'r iaith.

Mae'r cymoedd hyn â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg. Fel yn nifer o ardaloedd diwydiannol eraill yn ne Cymru, mae effeithiau diweithdra a thlodi wedi pwyso'n drwm ar y gymuned. Yn benodol, mae'n amlwg fod nifer o'r hen rwydweithiau a gynhaliai'r Gymraeg wedi gwanhau, ond mae rhai newydd wedi ymddangos.

Dadansoddodd Colin Williams a Jermy Evas1 sefyllfa ieithyddol y ddwy ardal hon ac amlinelliwyd natur yr her a wynebodd y rhai a ddymunai fynd i'r afael â sefyllfa fregus yr iaith. Nodwyd yn arbennig:

Fe aethant ymlaen i dynnu sylw at rai ffactorau allweddol all weddnewid y sefyllfa:

Arfarniad felly sy'n sylfaen i'r gwaith a wneir gan Fentrau Iaith Aman Tawe a Chwm Gwendraeth er mwyn ceisio gwyrdroi'r dirywiad a hybu defnydd helaethach o'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd hyn.

Ceir dadansoddiad mwy treiddgar o gydadwaith cymdeithasol a'r ffordd mae'n effeithio ar ddefnydd o'r Gymraeg gan Glyn Williams a Delyth Morris2. Nodasant pa mor gymhleth yw ystyried arferion cymdeithasol pobl sy'n byw o fewn cymunedau arbennig. Yr hyn sy'n bwysig i'r awduron hyn yw sylwi

Yr hyn sy'n bwysig yn nisgrifiad Williams a Morris yw canfod deinamig defnydd o'r iaith Gymraeg o fewn gweithgareddau cymdeithasol megis clybiau chwaraeon, tafarnau, gwaith gwirfoddol a chyd-destunau tebyg eraill. Eir ymlaen i sôn:

Mae gwaith Williams a Morris yn arbennig o werthfawr pan maent yn tynnu sylw at yr angen i gymhwyso prif egwyddorion cynllunio iaith i gydadwaith cymdeithasol. Yn eu tyb hwy mae hon yn elfen sydd wedi ei hanwybyddu gan ddatblygwyr polisi gan gynnwys Bwrdd yr Iaith Gymraeg mor belled. Darluniant ffactorau sy'n rym yn erbyn galluogi'r Gymraeg i fod yn iaith bob dydd yng Nghymru. Yn arbennig, tynnant sylw at y ffaith nad yw'r polisiau wedi delio'n gywir â'r cysyniad o gydraddoldeb a'r normyddol. Dadleuant nad yw cymhwyso cydraddoldeb i gydadwaith cymdeithasol wedi digwydd tu allan i'r cyd-destun ffurfiol.

Yn sgîl hyn, bydd y Gymraeg yn iaith leiafrifol. Ceir y nodweddion hyn yn glir yn y darlun a ddangosir yn yr adroddiad hwn. Bydd trafodaeth o'r hyn sy'n cynrychioli'r norm yn Nyffryn Aman a pen uchaf Cwm Gwendraeth o ran yr iaith Gymraeg yn allweddol bwysig. Disgrifir sut roedd arweinwyr cymuned yn dynodi safle'r Gymraeg a gwelir sut y mae'r normyddol yn ymffurfio yn eu tyb hwy. Gwelir hefyd y defnydd ymylol o'r Gymraeg yng nghydadwaith cymdeithasol. Yn y cyd-destun hwn, mae'n rhaid bod yn ofalus o'r term dwyieithog fel y'i defnyddir i nodweddu'r ardal hon. Fe olyga yn nhyb llawer bod defnydd gweddol gyfartal o'r ddwy iaith yn digwydd ond fel y dengys yr adroddiad nid yw hyn yn wir o bell ffordd. Sefyllfa unieithog a geir gan amlaf gyda'r Saesneg yn brif iaith sy'n ddrych o'r sefyllfa a ddisgrifir gan Williams a Morris. Cuddia defnydd o'r term `dwyieithog' lawer o ffeithiau pwysig am yr ardal hon lle ceir sefyllfa gyfaddawd o ran defnyddio'r Gymraeg ac ildio defnydd i raddau mawr iawn.

Serch hynny, mae gwerth i'r canfyddiadau hyn o ran symbylu arfarniad o'r hyn sy'n nodweddu'r ardal a mesur potensial lledu codi gwerth y Gymraeg ac ymledu defnydd o'r iaith ar draws holl elfennau cymdeithas.

3. YR ASTUDIAETH

Mae'r bennod hon yn nodi amcanion yr astudiaeth a'r ffordd yr aethpwyd ati i gyflawni'r amcanion hynny.

3.1 Amcanion yr astudiaeth

Fe osodwyd y nodau canlynol i'r astudiaeth hon:

Golygai hyn lunio darlun o weithgarwch cymdeithasol yr ardaloedd dan sylw ac amcan o'r defnydd o Gymraeg.

Hanfod yr elfen oedd canfod sut a phryd mae trigolion o sawl cefndir yn defnyddio'r Gymraeg o fewn gweithgarwch cymdeithasol a sut mae hynny'n dylanwadu ar natur eu defnydd o'r iaith a phennu pa gyfleoedd sut yno ar gyfer ymestyn y defnydd hwn

3.2 Dulliau

Defnyddiwyd sawl dull casglu data:

Cyfweliadau gydag arweinwyr cymuned

Cafwyd sylwadau drwy gyfweliad wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn yn ogystal â sylwadau ysrifenedig gan dros bump ar hugain o gynghorwyr, arweinwyr cymuned a gweithwyr cymunedol yn y cylch.

Arolwg o gymdeithasau'r ardal

Drwy ddefnyddio bas data cymdeithasau gwirfoddol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru fe ddetholwyd pob cymdeithas leol a restrwyd ar gyfer derbyn holiadur. Canolbwyntiwyd yn bennaf ar rai lle nad oedd y Gymraeg yn unig gyfrwng y gweithgarwch fel Merched y Wawr ac ni chynhwyswyd capeli ac eglwysi yn yr arolwg yn y dadansoddiad.

Derbyniwyd gwybodaeth gan 51 o gymdeithasau'r ardal sy'n cynrychioli dros 4550 o aelodau rhyngddynt. Cafwyd felly gyfradd ymateb o 39%. Noda'r tabl uchod natur y clybiau a ymatebodd.

CYMDEITHASAU A YMATEBODD I'R AROLWG

Math o glwb Nifer ymatebodd

Clwb chwaraeon 19

Grŵp cymunedol 9

Cymdeithas ar gyfer yr ifanc 7

Cymdeithas ar gyfer yr henoed 4

Clwb ar gyfer menywod 3

Cymdeithas gerddorol 2

Cymdeiths grefyddol 2

Clwb hanes/amgylchfyd 2

Gweithgarwch addysgol 2

Materion iechyd 1

Cyfanswm 51

Cyfweliadau gyda hap-sampl o drigolion

Holwyd dros 150 o drigolion y fro gan gynnwys dros 80 o Ddyffryn Aman a 72 o Gwm Gwendraeth am eu defnydd o'r iaith drwy gwestiynu hap-sampl o Gymry Cymraeg.

3.3 Yr adroddiad

Yn y bennod nesaf disgrifir priodweddau'r gymuned fel y'u gwelwyd gan y rhai a holwyd ac yn y bumed bennod sonnir am natur gweithgarwch cymdeithasol yn yr ardal. Ym mhennod chwech rhoddir gwybodaeth am le'r Gymraeg yn y gweithgarwch hwnnw ac yn y bennod olaf amlinellir rhai o'r prif gasgliadau ac argymhellion.

4. NODWEDDION Y GYMUNED

Mae'r bennod hon yn amlinellu prif nodweddion y gymuned fel y'u disgrifiwyd gan yr arweinwyr cymuned. Pwrpas y wybodaeth hon yw gosod y fframwaith ar gyfer arfarnu defnydd o'r Gymraeg o fewn y cymunedau hyn.

Y prif agwedd a nodwyd oedd bod yr ardal yn un sydd wedi newid yn sylweddol. Yn arbennig, soniwyd am nodweddion demograffig newydd o ran natur y boblogaeth, mathau o waith, dulliau cymdeithasu, mwy o deithio, tueddiadau siopa gwahanol ac ymwneud mwy â phrif gyrchfannau poblogaeth.

Nodwyd bod gan yr ardaloedd hyn bocedi lle mae dadfeiliad cymdeithasol yn amlwg. I'r rhai a roddodd gyfweliad amlygwyd hyn gan ddirywiad economaidd, tlodi, ynysrwydd a diweithdra yn ogystal â thor-cyfraith ac achosion mwy mynych o gamymddygiad cymdeithasol.

Soniodd sawl un bod grwpiau o'r gymdeithas erbyn hyn wedi'u heithrio o ymwneud ffurfiol â'u cymunedau a'r canlyniad bod nifer yn byw mewn sefyllfaoedd ymylol. Roedd hi'n bwysig bod gweithgarwch cymdeithasol yn agored ac yn hygyrch i rai na fyddai'n ymweud â sefyllfaoedd ffurfiol.

Cyfeiriwyd yn gyson at bobl ifanc fel carfan arbennig. Yn ddieithriad, byddai'r rhai a holwyd yn talu sylw at anghenion pobl ifanc gan danlinellu eu pwysigrwydd fel grŵp y mae angen ymdrin â hwy drwy strategaethau a gweithdrefnau arbennig.

Roedd y rhai a holwyd yn fwy tebygol i sôn am bobl yn symud i mewn i'r ardal yn hytrach nag allfudo o'r cymunedau hyn. Credai nifer fod y mewnfudo hwn yn cyfrannu at newid yn natur y gymdeithas o ran creu dylanwadau newydd a deinamig gwahanol.

Disgrifiwyd fel roedd patrymau gweithgarwch cymdeithasol wedi newid a'i bod yn anos cynnal cymdeithasau erbyn hyn.

I bawb, roedd y Gymraeg yn elfen annatod o bob cymdeithas ac yn haenen bwysig o wead y cymunedau. Serch hynny, soniodd y mwyafrif am y ffaith bod dirywiad amlwg yn y nifer a ddefnyddiai'r Gymraeg ac o ganlyniad lle'r Gymraeg o fewn y gymdeithas. Dim ond un a haerai fod y `Gymraeg yn saff yn y lle hwn'. I eraill, sefyllfa o farnu a oedd yn Gymraeg yn dal ei thir, `it's hanging in there' oedd un sylw nodweddiadol. Teimlai rhai bod y blynyddoedd nesaf yn rhai tyngedfennol i'r Gymraeg `a'r deg mlynedd nesaf a a wnaiff ddangos a fydd y Gymraeg yn byw fan hyn neu beidio' oedd barn un cynghorydd sir.

Holwyd dau grŵp o drigolion am eu barn hwy am sefyllfa'r Gymraeg. Yn Nyffryn Aman, roedd 33 yn meddwl bod llai o Gymraeg yn yr ardal nag oedd bum mlynedd yn ôl, 33 yn meddwl bod yr un faint o Gymraeg a 17 yn meddwl bod llai. Wrth holi beth oedd yn cyfri am lai o Gymraeg y rheswm amlaf a roed oedd nad oedd yr ifanc yn fodlon siarad yr iaith.

Roedd 38 yn meddwl eu bod yn siarad mwy o Gymraeg nag oeddynt bum mlynedd yn ôl, 29 yr un faint a 16 llai o Gymraeg. Y rheswm am y cynnydd yn y defnydd oedd y ffaith eu bod yn helpu gyda gwaith ysgol y plant a hefyd am fod nifer yn siarad Cymraeg fel rhan o'u gwaith.

Yng Nghwm Gwendraeth credai 31 fod llai o Gymraeg yn yr ardal nag oedd bum mlynedd yn ôl, 21 yn dal bod yr un faint a 20 bod mwy. Addysg oedd i gyfrif am fwy a mewnlifiad o rai di Gymraeg oedd y rheswm am lai.

Soniodd 38 eu bod yn gwneud yr un defnydd o'r Gymraeg ac roeddynt bum mlynedd yn ôl; 21 fwy o ddefnydd a 14 llai. I rai a ddefnyddiai fwy o Gymraeg y gwaith a helpu plant gyda'u gwaith ysgol oedd y rhesymau a nodwyd. Y rheswm am ddefnyddio llai o Gymraeg oedd diffyg cydnabod a siaradai'r iaith a phrinder cyfle

5. GWEITHGARWCH CYMDEITHASOL

Pwrpas y bennod hon yw olrhain rhai o brif nodweddion gweithgarwch cymdeithasol yr ardal yn ôl yr hyn a ddisgrifiwyd gan yr arweinwyr cymuned a gwybodaeth a gasglwyd o'r arolwg a chyfweliadau â thrigolion.

5.1 Mapio'r ddarpariaeth

Tasg anodd oedd llunio darlun cynhwysfawr o weithgarwch cymdeithasol yr ardal drwy geisio mapio'r hyn a gynhelid o ran clybiau a chymdeithasau. Nid oedd gwybodaeth fanwl gywir ar gael fel catalog dibynadwy o weithgarwch pob cymuned. Er bod syniad eithaf trylwyr gan gynghorwyr cymuned a sir o'r hyn a ddigwyddai yn eu hardal nid oedd yr holl wybodaeth ganddynt o bell ffordd. Gallai pob un a holwyd roi disgrifiad bras o glybiau'r ardal ond roedd gofyn mynd at bob arweinydd er mwyn cael y darlun cywir. Ymddengys, felly, y byddai'n fuddiol hyrwyddo awdit lleol gan bob cyngor cymuned o holl weithgarwch cymdeithasol y cylch.

Serch hynny, roedd hi'n bosibl cael gwybodaeth am nifer o briodweddau gweithgarwch cymdeithasol yn yr ardal a nodir rheiny isod.

5.2 Nodweddion gweithgarwch cymdeithasol

Pwrpas yr adran hon yw amlinellu rhai o'r prif ffactorau a ddylanwadai ar weithgarwch cymdeithasol yr ardal.

Canolfannau cymdeithasol

Roedd hi'n amlwg bod gweithgarwch cymdeithasol yn cael ei lyffetheirio'n sylweddol mewn nifer o leoedd gan ddiffyg canolfannau cydnabyddiedig. Nodwyd cymunedau fel Gorslas a Betws fel rhai amlwg. Bydd Canolfan Etifeddiaeth Brynaman yn fenter amlwg a fydd yn hwyluso peth gweithgarwch cymdeithasol yn y fan honno hefyd.

Lle nad oes cyfleusterau lleol o'r radd flaenaf na chanolfan gymunedol naturiol bydd pobl yn naturiol yn cyrchu i'r lle poblog agosaf. Mae Rhydaman yn ganolfan gymdeithasol bwysig felly. Soniwyd sut roedd pensiynwyr Betws yn dymuno ymuno â changen Rhydaman am y rhesymau hynny. Gwyddys bod canolfan Streets yn denu pobl ifanc o holl bentrefi'r ardal.

Gweithgarwch cymdeithasol ar gyfer yr ifanc

Mae crybwyll Streets yn dwyn sylw at nodwedd amlwg yr ardal hon a sawl ardal debyg. Un o sialensau mwyaf yw creu gweithgarwch cymdeithasol ystyrlon ar gyfer pobl ifanc. Cafwyd gwybodaeth gan Streets sut mae'n llwyddo cynnal ystod eang o weithgareddau i bobl ifanc o bob cefndir. Apelia'r gweithgareddau hyn hefyd at bobl ifanc nad ydynt fel arfer yn dewis uniaethu â sefyllfa gymdeithasol ffurfiol. Ceir canolfan ieuenctid fywiog arall yng Nglanaman lle ceir nifer sylweddol o ieuenctid yr ardal yn mynychu gweithgareddau.

Newid yn arferion cymdeithasol

Serch hyn, gwelwyd newid ym mhatrwm cyd-adwaith cymdeithasol y cylch dros yr ugain mlynedd diwethaf. Lleihaodd y nifer sy'n mynychu capeli ac eglwysi yn sylweddol ac nid oes modd cyfrif y rhain fel canolfannau cymdeithasol arwyddocaol gan amlaf bellach er bod eithriadau yn nhref Rhydaman ac ambell fan arall. Mae pobl ar y cyfan yn fwy cyndyn i fentro o'u cartrefi i lefydd fel cymdeithasau a hyd yn oed tafarnau. O'r 152 o Gymry Cymraeg Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth a holwyd dim ond 46 (llai na thraean) a nododd eu bod yn perthyn i unrhyw fath o glwb gan gynnwys capel neu dafarn. Roedd y cyfran yn uwch yng Nghwm Gwendraeth - 37% na'r 24% yn Nyffryn Aman sydd o bosibl yn nodweddu cyfansoddiad demograffig yr ardal.

Lle iaith yng nghydadwaith cymdeithasol

Wrth drafod gweithgarwch cymdeithasol fe dynnodd nifer o'r rhai a holwyd at sail ieithyddol y cyd-adwaith hwn. I arweinwyr cymuned, gan amlaf, roedd hi'n bsoibl dosbarthu rhai cymdeithasau fel rhai iaith Gymraeg yn unig. Yn eu plith, roedd Merched y Wawr, clybiau cinio Cymraeg, y capeli, corau arbennig a rhai eisteddfodau lleol. Credai un cynrychiolydd bod cymdeithasau Cymraeg eu hiaith yn tueddu i fod yn iachach oherwydd bod pobl yn awyddus i'w mynychu i gael arfer yr iaith. O rai o'r sylwadau a dderbyniwyd gan y trigolion a holwyd, nododd sawl un fod eu cyfle i ddefnyddio'r iaith wedi lleihau oherwydd prinder achlysuron cymdeithasol drwy'r iaith Gymraeg. Gallai llawer o'r arweinwyr cymuned hyn gynnig dosbarthu gweithgarwch cymdeithasol yn ôl cyfrwng un iaith neu'r llall. Sonient fod y clwb arbennig yn `Saesneg i gyd' erbyn hyn neu taw `Cymraeg gan fwya' a ddefnyddiwyd. Yr hyn sy'n ddiddorol yw bod dim un o'r arweinwyr yn cyfeirio at weithgarwch cymdeithasau dwyieithog. Sonient bob amser am yr iaith fwyafrifol. Teimlai rhai eraill fod defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg yn perthyn i `dosbarth canol proffesiynol' a taw Saesneg a arferid gan amlaf yn y tafarnau a'r clybiau gan y bobl gyffredin. Honnodd un arweinydd grŵp bod `iaith yn gwahanu' a'i bod yn bwysig defnyddio Saesneg er mwyn cynnwys pawb. Serch hynny, crybwyllodd un gweithiwr cymuned fel bod gweithio mewn dwy iaith yn hollol naturiol yn yr ardal. Ymhlith y trigolion a holwyd oedd yn mynychu clybiau siaradai'r cyfan Gymraeg yn y lleoedd hyn ar ryw achlysur neu'i gilydd.

Gwaith y mentrau cymunedol

Nodwedd amlwg ym mywyd Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth yw gwaith y mentrau datblygu cymunedol. Yn sgil eu gweithgareddau o hyrwyddo cynlluniau cymunedol ym meysydd fel dysgu gydol oes, cynlluniau perfformio a chelfyddydol, gofal plant a chefnogi mentrau lleol digwydd ceir ystod eang o weithgarwch cymdeithasol. Mae'r ddau gorff hyn yn bwysig o ran hyrwyddo cydadwaith ar lefel leol a gosod esiamplau o ran gweithredu mewn cymunedau lle ceir cyfran uchel iawn o siaradwyr Cymraeg.

Seilir gweithrediad y cyrff hyn ar ddatganiad clir o egwyddorion a gwerthoedd a fabwysiadwyd gan Ddatblygu Cymunedol Cymru fel fframwaith ar gyfer mentrau tebyg. Yn y datganiad hwn, sonnir am:

Mae gosodiadau o'r fath yn cynnig sicrwydd bod yr asiantaethau hyn yn mynd i'r afael â beth sy'n normyddol o fewn cymunedau'r ardal hon a'u bod yn rym i wrthsefyll unrhyw normaleiddio dieithr ac anghydnaws. Yr hyn sy'n eithriadol o bwysig yw bod y Gymraeg yn cael rhan allweddol yn eu cynlluniau. Y nod yw bod yr iaith yn amlwg yn eu bwriadau ar gyfer y broses o ryddhau a galluogi sy'n greiddiol i ddatblygu cymunedol dilys. Rhydd datblygiadau fel darpariaeth gofal dydd, mentrau celfyddydol a theatr gyfle arbennig ar gyfer sicrhau hyn yn ogystal â'r ymdrechion i hyrwyddo dysgu gydol oes.

Bywyd cymdeithasol yr ardal

Trwy'r wybodaeth a ddaeth o'r arolwg roedd hi'n bosibl canfod rhai elfennau cryf o gydadwaith cymdeithasol yn yr ardal hon. Mae'r 51 o gymdeithasau a ymatebodd yn cynrychioli amcangyfrif o 4550 o aelodau. Nodir bod 60% o'r aelodau ar gyfartaledd yn siarad Cymraeg er taw 20% yw'r cyfran isaf a gofnodwyd. Dros y clybiau i gyd soniwyd bod 30% dan 30 oed; ychydig dan chwarter (23%) rhwng 31 a 55 oed a bron hanner dros 55. Dengys y wybodaeth hon, felly, fod y math hwn o weithgarwch cymdeithasol yn denu mwy o'r grŵp oedran hŷn.

Roedd y cymdeithasau a ddychwelodd holiaduron yn cynnwys cyfran helaeth o glybiau chwaraeon yn enwedig clybiau rygbi, bowls, athletau, criced a phêldroed a hefyd clwb marchogaeth, pysgota, tenis, celfyddydau milwrol a beiciau modur. Cynhwysai rhai o'r clybiau rygbi gyfanswm o aelodau a oedd yn ymestyn hyd dros 500. Noda un fod 804 o aelodau ganddo. Gellid gweld felly bod gweithgareddau hamdden ym maes chwaraeon yn gwneud cyfraniad allweddol i fywyd cymdeithasol yr ardal.

Gwelwyd bod peth gweithgarwch cymdeithasol yn digwydd trwy neuaddau cymunedol. Roedd modd i bwyllgorau'r rhain nodi ystod o weithgarwch a ddigwyddai yn y lleoedd hyn. Yn aml, cynhelid cyfarfodydd grwpiau elusennol arbennig yn ogystal â dawnsio, cyngherddau a grwpiau i fenywod neu'r henoed. Rhoddir enghraifft o wybodaeth a roddwyd gan un pwyllgor neuadd goffa leol isod.

Caed peth gwybodaeth drwy'r arolwg gan glybiau a chymdeithasau a oedd yn darparu'n benodol ar gyfer pobl ifanc. Roedd gan Adran Geidiau yr ardal ryw 250 o aelodau a oedd yn cyfarfod mewn mannau megis Saron, Tŷ Croes, Rhydaman, Cwmaman a Brynaman. Ymatebodd un cyngor ieuenctid lle byddai 43 o bobl ifanc yn mynychu gweithgareddau'r ganolfan. Y math o weithgareddau a gynigir yma yw gweithdai iechyd, gweithgareddau awyr agored, cynlluniau celfyddydol, cyrraedd pob ifanc yn y gymuned a gweithgareddau cymdeithasol eraill.

Darparwyd gwybodaeth gan ambell gymdeithas sy'n gweithio gyda phobl sydd ar ymylon cymdeithas fel un ganolfan sy'n cefnogi pobl gyda phroblemau iechyd meddwl. Yma darperir gwybodaeth, cymorth unigol ynghyd â chyfeirio at asiantaethau arbenigol yn ogystal â chynnal gweithgareddau hamdden megis yoga, tai chi a gwibdeithiau.

Mae'n bosibl dirnad bod cydadwaith cymdeithasol yn dal i ddigwydd mewn sefyllfaoedd ffurfiol drwy'r ardal hon. Mewn rhai mannau ceir cymdeithasau ffyniannus yn enwedig ar ochr chwaraeon. Mentrodd yr astudiaeth ystyried lle'r Gymraeg o fewn y gweithgarwch hwn a'r wybodaeth hon a ddisgrifir yn y bennod nesaf.

6. Y GYMRAEG YNG NGWEITHGARWCH CYMDEITHASOL YR ARDAL

Drwy'r cyfweliadau a gafwyd gydag arweinwyr cymuned a chymdeithasau ynghyd a'r atebion i'r holiadur mae modd cael darlun dibynadwy o sefyllfa'r Gymraeg yng ngweithgarwch cymdeithasol yr ardal.

Y polisi sy'n cael ei ddatgan yn aml yw bod cyfle yn cael ei roi i bobl siarad eu dewis iaith, er yn ymarferol, defnydd o'r Saesneg a gaed bron yn ddieithriad. O ddilyn rhesymeg Williams a Morris a amlinellwyd ar ddechrau'r adroddiad gellid gweld taw'r norm yw defnyddio Saesneg. Dim ond defnydd anffurfiol o'r Gymraeg sy'n digwydd rhwng aelodau mewn sgyrsiau achlysurol. Mae defnyddio un prif gyfrwng sef Saesneg wedi'i normaleiddio er bod mwyafrif yr aelodau ar brydiau yn siaradwyr Cymraeg. Tanseilia gwybodaeth o'r fath ymdrechion i sicrhau datblygu cymunedol ar sail egwyddorol cryf fel ymarfer gwrth-orthrwm a dulliau gwrth-wahaniaethu.

6.1 Agweddau tuag at y Gymraeg mewn gweithgarwch cymdeithasol

Tynnwyd sylw at rai nodweddion creiddiol o ran defnyddio'r Gymraeg yng ngweithgarwch cymdeithasol gan nifer o'r arweinwyr cymuned hyn:

6.2 Y Gymraeg ym mywyd y cymdeithasau

Ymhlith y cymdeithasau a ymatebodd i'r arolwg, nodwyd bod 60% o'u haelodau ar gyfartaledd yn siaradwyr Cymraeg. Y cyfran uchaf a gofnodwyd oedd 100% a'r isaf, 20%. Felly, ar draws y clybiau a'r cymdeithasau hyn at ei gilydd mae'r mwyafrif o'r aelodau yn siaradwyr Cymraeg. Serch hynny, nid adlewyrchir hyn yn nhrefniadau ffurfiol y clwb neu'r gymdeithas er enghraifft o ran darparu agenda, cofnodion neu hysbysebion.

O'r tabl isod, gellid gweld taw yn Saesneg yn unig y mae'r clybiau gan fwyaf yn cynnal eu trefniadau ffurfiol. Mae 30 allan o 51 yn darparu agenda uniaith Saesneg a cheir ymateb tebyg o ran cofnodion hefyd. Gwneir mwy o ddefnydd o'r iaith gyda gwybodaeth i'r cyhoedd megis posteri 19 yn hysbysebu'n ddwyieithog er nad yw clybiau yn defnyddio'r Gymraeg yn helaeth wrth ohebu. Ymddengys fod y clybiau yn peidio â dewis y Gymraeg yn rheolaidd ar eitemau megis cardiau aelodaeth lle byddid yn disgwyl cynnwys y ddwy iaith fel cydnabyddiaeth o natur ieithyddol siaradwyr a'r gymuned.

Defnydd o iaith yn y ddarpariaeth o ddogfennau, gwybodaeth a gweithgarwch y clybiau/cymdeithasau.

Eitem Nifer Nifer Nifer Nifer

Agenda 30 1 15 5

Cofnodion 31 1 10 10

Hysbysebion 23 1 15 13

Posteri 17 1 19 15

Cylchlythyr 20 1 15 15

Llythyron 27 2 15 7

Gweithgareddau 20 2 26 2

Cyfarfodydd 21 2 19 9

Cardiau aelodaeth 20 2 9 20

Deunydd codi arian 15 1 11 24

Unrhyw ddeunydd 8 1 6 26

arall

Cyfanswm y Clybiau = 51

Er bod tua hanner y clybiau yn disgrifio cyfrwng eu gweithgareddau a'u cyfarfodydd fel `dwyieithog' golyga hyn mewn gwirionedd ddefnydd, anffurfiol, ad hoc o'r Gymraeg gan fwyaf. Gofynnwyd cwestiwn arall i'r cymdeithasau a oedd eu haelodau yn gallu defnyddio'r ddwy iaith yn eu gweithgareddau. Tybient y gallant ond dim ond sefyllfaoedd o siarad rhwng ffrindiau a ddisgrifiwyd. Caed ymatebion a oedd yn disgrifio pa ddefnydd o ddwy iaith a gaed o fewn y cymdeithasau hyn fel:

Gellid gweld taw pwrpas swyddogol gan amlaf a roddir i'r Saesneg a swyddogaeth fwy anffurfiol i'r Gymraeg. Mae delio â'r Gymraeg fel hyn yn awgrymu safle o ddiffyg statws hyd yn oed mewn sefyllfa lle mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg. Y prif gyfiawnhad dros hyn oedd yr angen i fod yn ymarferol. Nodir rhai sylwadau nodweddiadol sy'n tanlinellu'r pwynt hwn:

Mewn ychydig o achosion yn unig nodwyd bod anghenion gan siaradwyr Cymraeg. Sylw cynrychiolydd un clwb chwaraeon oedd `Some members are more comfortable through the medium of Welsh' ac felly nid oedd problem defnyddio'r ddwy iaith mewn cyfarfodydd. Serch hynny, hyd yn oed yn y sefyllfa hon roedd yr agenda, cofnodion a hysbysebion yn uniaith Saesneg. Nododd ymatebwr ar ran clwb chwaraeon arall `We discuss problems in Welsh as some members can express themselves better in Welsh'.

Ar y cyfan, beth bynnag, roedd enghreifftiau o arferion parchu dymuniadau a dewis siaradwyr Cymraeg yn brin a chyfleoedd anfynych o geisio galluogi siaradwyr Cymraeg i ymddwyn mewn sefyllfa gyfartal. Caed rhai enghreifftiau trawiadol o ddiffyg cyd-raddoldeb defnyddio iaith. Darlunnir yr esiamplau hyn isod.

Adlewyrchir yr un drefn mewn cymdeithas henoed arall lle mae 80 o aelodau a 90% yn siaradwyr Cymraeg ac yn y ddau gyfarfod misol dim ond Saesneg a ddefnyddir oherwydd y lleiafrif sy'n siaradwyr Saesneg. Ceir yr un math o weithredu'n Saesneg er bod mwyafrif yr aelodau'n siarad Cymraeg mewn enghreifftiau o bwyllgor neuadd y pentref lle mae wyth allan o ddeg aelod yn siarad Cymraeg. Cynhelir y gweithgarwch bob amser yn Saesneg fel y gwnaed mewn grŵp menywod lle roedd y mwyafrif (75%) o'r 38 aelod yn gallu siarad Cymraeg. Mewn un clwb chwaraeon, roedd 90% o'r cant o aelodau yn medru'r Gymraeg ac eto Saesneg a ddefnyddir bob tro o ran yr hyfforddiant a'r cyfarfodydd.

Nododd ychydig o glybiau y ffordd roeddynt wedi goresgyn yr anawsterau ymarferol er mwyn sicrhau bod cyd-raddoldeb o ran defnyddio'r Gymraeg a Saesneg. Disgrifiodd un gymdeithas yn Nyffryn Aman lle mae 14 allan o 16 o aelodau taw Cymraeg a siaredir drwy'r amser gydag aelodau'n cynnig cyfieithu ar gyfer y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg. Caed enghraifft debyg yng nghyfarfodydd cyngor cymuned lle darperid offer cyfieithu gan Fenter Cwm Gwendraeth er mwyn sicrhau bod y mwyafrif o'r 14 o aelodau yn cael siarad Cymraeg yn ôl eu dewis. Serch hynny, enghreifftiau prin yw'r rhain a chan amlaf derbynnir taw Saesneg fydd yr iaith lywodraethol.

Maes lle gwelwyd sefyllfa wahanol o ran defnyddio'r Gymraeg oedd darpariaeth ar gyfer pobl ifanc. Er bod darlun cadarnhaol o ddefnydd y Gymraeg wedi'i gyflwyno gan Gymdeithas y Geidiau a chlybiau chwaraeon penodol, er enghraifft, nid adlewyrchwyd yr un graddau o ddefnydd o'r Gymraeg mewn clybiau ieuenctid ffurfiol. Mewn rhai o'r cyd-destunau hyn, nodwyd bod siaradwyr Cymraeg ymhlith y lleiafrif. Mwy na thebyg, cam-arfarniad fyddai hwn gan y byddai pob person ifanc yn y cylch hwn wedi derbyn addysg gynradd drwy gyfrwng yr iaith. Yn y cymdeithasau a ymatebodd i'r arolwg ac yn ôl ymweliadau â chlybiau ieuenctid canfyddwyd bod pobl ifanc yn peidio â defnyddio'r Gymraeg o fewn cyd-adwaith cymdeithasol. Digwyddai hyn yn aml er gwaethaf ymdrechion yr arweinwyr i hybu defnydd o'r iaith. Nododd un, `it is always difficult when working with young people to encourage them to speak Welsh'. Ymddengys bod sefyllfa leiafrifol yr iaith yng nghydadwaith cymunedol ffurfiol wedi ymdreiddio i ymddygiad cymdeithasol pobl ifanc fel bod y Gymraeg yn amherthnasol iddynt. Bydd angen strategaethau newydd i ddelio â'r sefyllfa hon.

Yr hyn sy'n amlwg yw nad yw cyfrwng gweithgarwch cymdeithasol yn cyfateb ag iaith y mwyafrif o'r rhai sy'n mynychu'r gweithgareddau hyn. Wrth holi Cymry Cymraeg wrth iddynt siopa nododd sawl un fod eu defnydd o'r Gymraeg wedi cynyddu oherwydd yr angen i'w defnyddio o fewn cyd-destunau pendant fel gwaith a chynorthywo eu plant i wneud gwaith cartref. Soniodd llawer, hefyd, fod gweld y Gymraeg wedi'i arddangos yn creu argraff bod gwerth i'r iaith a'i bod yn iaith fyw yn yr ardal. Roedd y rhan fwyaf hefyd yn parhau i ddarllen ac i ysgrifennu'n Gymraeg gan nodi bod cael iaith ar gyfer pwrpasau mwy ffurfiol yn ehangu eu defnydd o'r iaith. Mae yma, felly, wersi pwysig i'w trosglwyddo i'r defnydd o Gymraeg mewn cyd-destunau cymdeithasol. Ymddengys y bydd cryfhau cysylltiad â'r Gymraeg drwy wneud mwy o ddefnydd drwy weithdrefnau ffurfiol megis gweinyddiaeth cyfarfodydd yn fodd i gynyddu defnydd o'r iaith yn gyffredinol. Serch hynny, llai na hanner y cymdeithasau a ymatebodd i'r arolwg a deimlai fod modd ymestyn defnydd o'r Gymraeg o fewn eu gweithgareddaua'u cyfarfodydd. Un agwedd cadarnhaol, beth bynnag, yw'r ffaith bod clybiau yn ymwybodol o'r rhai sy'n siarad Cymraeg a hefyd drwy eu gweithgarwch yn creu cyfleoedd i rai arfer yr iaith. Mae'n glir bod angen cychwyn proses o arbrofi gyda dulliau a all beri bod siaradwyr Cymraeg yn cael defnyddio eu hiaith mewn sefyllfa gymdeithasol yn helaethach. Dim ond deg o'r cymdeithasau a ddywedodd fod rhai o'u haelodau yn dysgu Cymraeg. Mae angen cymhathu dysgwyr i fewn i weithgarwch cymdeithasol a bydd angen ystyried pa gyfleoedd sydd i wneud hynny.

Byddai camau felly yn ffordd i wyrdroi'r normaleiddio presennol o ddefnyddio Saesneg yn unig. Gellid gweld yn glir o'r dystiolaeth a gyflwynwyd bod cryn wahaniaeth rhwng graddau defnyddio'r Gymraeg a'r niferoedd sy'n medru'r iaith o fewn y cyd-destunau cymdeithasol. Ni ellir galw'r fath sefyllfa yn ddwyieithog, ac ni ellir cyfiawnhau cynnal bwlch oherwydd rhesymau ymarferol gan fod sefyllfaoedd o ddiffyg cyd-raddoldeb wedi'u creu.

7. CASGLIADAU AC ARGYMHELLION

Mae'r ardal lle cynhaliwyd yr astudiaeth yn un sydd wedi newid llawer dros y blynyddoedd diwethaf. Mewn mannau, trawsnewidiwyd cymeriad cymunedau yn llwyr oherwydd rhesymau economaidd a chymdeithasol. Serch hynny, erys y Gymraeg yn un o brif nodweddion yr ardal ac elfen holl bwysig o wead cymunedau. O'r herwydd mae'r Gymraeg yn eiddo gwerthfawr i'r gymdeithas ac un y byddai arweinwyr cymuned yn dymuno ei chadw. Hefyd, ceir seiliau egwyddorol cryf pam mae angen trysori'r iaith a hybu defnydd helaethach ohoni ym mhob cymuned yn yr ardal hon.

Beth bynnag, mae nifer o ffactorau yn milwriaethu yn erbyn cadw'r Gymraeg yn gyfrwng naturiol a blaenllaw yn y cymdeithasau hyn. Un amlwg yw natur cydadwaith cymdeithasol sydd, yn ôl y dystiolaeth a ddangoswyd, wedi peri bod normaleiddio'r Saesneg fel prif gyfrwng gweithgarwch. Yn gyffredinol, cedwir y Gymraeg at bwrpasau sgwrsio anffurfiol cyfeillion o fewn y cymdeithasau hyn. Gyrrir rhaglenni'r cymdeithasau ymlaen gan drafodaethau Saesneg yn unig gan fwyaf, hyd yn oed pan fydd siaradwyr Cymraeg yn y mwyafrif. Ychydig o enghreifftiau a nodwyd o barchu sensitifrwydd siaradwyr Cymraeg neu ymdrechion i oresgyn sialensau ymarferol. Ceir bwlch mawr rhwng mynychder defnydd y Gymraeg a'r ffaith bod trwch aelodaeth yn medru'r iaith. Mae sefyllfaoedd o'r fath yn tanseilio unrhyw weithredu egwyddorol o ran ymarferion gwrth-orthrwm. Dengys hefyd nad sefylla ddwyieithog a geir drwy gydol yr ardal hon ond gweithredu unieithog Saesneg gan amlaf. Serch hynny, mae'r ffaith bod clybiau yn ymwybodol ba aelodau sy'n siarad Cymraeg ac yn amlwg yn creu cyfleoedd i rai arfer yr iaith yn sail ar gyfer ystyried sut mae ymestyn ei defnydd.

Mae sefyllfa'r Gymraeg o ran gweithgarwch ieuenctid yn ddybryd a bydd angen cynllunio'n ofalus sut mae cynyddu defnydd o'r Gymraeg ymhlith y grŵp arbennig hwn.

Gofynnwyd i'r astudiaeth gynnig argymhellion y gellid eu gweithredu gan y Mentrau Iaith mewn cyd-weithrediad â'r Cyngor Sir. O'r dystiolaeth a gyflwynwyd mae'n glir bod angen:

Mae'n amlwg bod yma gryn her; ond un y mae'n rhaid ei wynebu er mwyn peidio ag achosi rhagor o ddieithrio i Gymry Cymraeg a hefyd colli un o nodweddion pwysicaf y fro. Rhestrwyd nifer o argymhellion y gellid yn hawdd eu gweithredu yn yr ardal hon a sicrhau effaith buan er mwyn lledu defnydd o'r iaith.

1 Williams, C.H ac Evas, J. (1998) Y Cynllun Ymchwil Cymunedol, Caerdydd: Bwrdd yr Iaith Gymraeg

2 Williams, G. a Morris, D (2000) Language Planning and Language Use: Welsh in a Global Age, Caerdydd:Gwasg Prifysgol Cymru