Y Faner Las yn cyhwfan dros Foryd Byrri
Cymraeg |  BSL | Jump to content |  Text Only |  Change font size  A A A
Y Faner Las yn cyhwfan dros Foryd Byrri 
24/11/2010 

Bydd y Faner Las yn cael cyhwfan ar draeth Cefn Sidan, Pen-bre yn 2011, sy'n anrhydedd o'r mwyaf.
Yr oedd traeth Cefn Sidan, sy'n ffinio ar Barc Gwledig Pen-bre, ynghyd â thraeth Pentywyn, yn agos i'r brig o blith 80 o draethau pan gyhoeddwyd canlyniadau'r profion oedd wedi eu cynnal yn unol â'r Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar gyfer Dyfroedd Ymdrochi mewn perthynas â'r safonau gorfodol o ran bacteria.
Mae'r profion yn dangos bod dyfroedd Bae Caerfyrddin a Moryd Byrri ymysg y glanaf yn Ewrop a bod y traethau ym Mhorth Tywyn yn cael eu hystyried yn rhai “ardderchog.”
Dywedodd Mark James, sef Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, ei fod yn falch dros ben fod y ddau draeth nid unig wedi cael canlyniadau da yn y profion bacteria gorfodol mewn perthynas â'r Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar gyfer Dyfroedd Ymdrochi ond hefyd mewn perthynas â'r Safon Canllaw Ewropeaidd ar gyfer Dyfroedd Ymdrochi sy'n brawf mwy llym o lawer. 
Methodd traeth Cefn Sidan a thraeth Pentywyn gael y Faner Las yn 2009 a hynny oherwydd methu un prawf ansawdd dŵr, a oedd wedi ei gynnal ar ôl i law trwm lifo oddi ar gaeau i'r ardal brawf.
Bydd y Cyngor Sir yn cyflwyno cais am statws Baner Las i Gefn Sidan, Pen-bre yn 2011. Bellach y Cyngor Cymuned sy'n rheoli traeth Pentywyn. Mae Cefn Sidan wedi llwyddo i gael y Faner Las fwy o weithiau nag unrhyw draeth arall yng Nghymru  - 24 o weithiau o blith cyfanswm posibl o 26 o weithiau.
Ar ôl i Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, gyhoeddi'r newyddion am draethau Cymru, dywedodd Mr James: “Mae hyn yn amlygu unwaith eto, a hynny'n groes i farn rhai ymgyrchwyr, fod ansawdd y traethau a'r dyfroedd ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin yn rhagorol, a chystal os nad gwell nag unman arall yn Ewrop. 
“Mae'n drueni mawr bod rhai pobl, sydd â'u cymhellion eu hunain, yn codi bwganod ac yn ceisio darbwyllo'r cyhoedd fod problemau o ran ansawdd ein dyfroedd.
“Mae ein diwydiant twristiaeth yn bwysig iawn i lawer o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ledaenu'r newyddion da am ein dyfroedd a'n traethau er mwyn cymell pobl i ymweld â Sir Gaerfyrddin."
Ychwanegodd Mr James fod y profion ansawdd dŵr wedi dangos bod y dyfroedd ym Mhorth Tywyn yn ardderchog. Ond gan nad yw'r traeth yno wedi ei bennu'n brif draeth ymdrochi nid yw'n gallu cael y Faner Las.
Dywedodd Mrs Davidson: “Gwelsom yn 2009 fel roedd glaw trwm yn gallu effeithio ar ein dyfroedd ymdrochi.
“Mae'r diwydiant twristiaeth yn elfen bwysig o economi Cymru,. Mae'n cyfrannu £3.5 biliwn at yr economi bob blwyddyn ac yn cyflogi hyd at 100,000 o bobl ar anterth y tymor.”