Ar ôl ymgynghori'n helaeth mae Cyngor Sir Caerfyrddin, ynghyd â'r Cymdeithasau Tai sy'n bartneriaid inni, wedi newid y ffordd rydym bellach yn dyrannu ein tai.
Bellach, nid oes gennym restr aros ar gyfer tai. Yn hytrach na rhestr aros, ceir cofrestr tai sy'n cael ei hasesu ar sail eich anghenion o ran cael tŷ. Rhoddir pwyntiau drwy osod ymgeiswyr mewn 1 o 4 categori. Mae'r ystod yn mynd o Gategori A, sy'n rhoi'r pwyntiau mwyaf, i Gategori D sy'n rhoi'r pwyntiau lleiaf.
Mae'r Cymdeithasau Tai canlynol yn defnyddio'r un polisi i ddyrannu tai:
- Cymdeithas Tai Bro Myrddin
- Cymdeithas Tai Coastal
- Cymdeithas Tai Cantref
- Cymdeithas Tai Teulu
- Grŵp Tai Gwalia
Os hoffech gael golwg ar y polisi newydd, dewiswch un o'r dogfennau canlynol.