Mae rhai pobl yn penderfynu gwneud gwelliannau sy'n gallu cynhyrchu ynni. Gelwir y gwelliannau hyn yn gynlluniau microgynhyrchu.
Mae'r rhan hon o'r wefan yn cynnig cyflwyniad i'r cynlluniau hyn ac ystyriaethau eraill os ydych am roi'r mathau hyn o welliannau ar waith yn eich cartref.
Boeleri Bio-màs - mae'r rhain yn llosgi pren a naddion pren, gwastraff o gytiau ieir a gwellt. Fel rheol, cewch danwydd bio-màs gan gyflenwyr lleol.
Pympiau gwres daear - defnyddia'r rhain ddolen (wedi'i gwneud o ddarnau o bibell) sydd wedi'i chladdu yn y ddaear er mwyn trosglwyddo gwres o'r ddaear i'r adeilad. Gallant roi gwres a chynhesu dŵr mewn rhai achosion, fel bod angen defnyddio llai o ynni i dwymo'r dŵr. Yn ogystal â phympiau gwres daear, mae pympiau gwres aer a gwres dŵr hefyd ar gael.
Tyrbinau gwynt – mae'r rhain yn defnyddio'r gwynt i gynhyrchu trydan. Mae eu perfformiad yn dibynnu ar ble y cânt eu gosod. Mae'r trydan a gynhyrchir yn dibynnu hefyd ar gyflymdra'r gwynt. Gall coed ac adeiladau effeithio ar gyflymder y gwynt, felly cânt eu gosod fel arfer ar fastiau neu dyrrau, neu ar ben adeiladau.
Paneli Haul ffotofaltäig – mae'r rhain yn cynhyrchu trydan o olau'r haul, hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog. Maent fel arfer ar ffurf paneli sy'n cael eu gosod ar eich to neu ar lechi'r to.
Defnyddio Ynni'r Haul i Gynhesu Dŵr – dyma'r dull mwyaf cyffredin o ddefnyddio ynni'r haul. Mae'r paneli hyn fel arfer yn gallu darparu'r holl ddŵr poeth sydd ei angen arnoch yn ystod misoedd yr haf, sy'n golygu y gallant ddarparu tua hanner yr holl ddŵr poeth sydd ei angen arnoch mewn blwyddyn.
Beth arall y mae angen imi ei wybod am ffynonellau ynni adnewyddadwy?
Os ydych chi'n ystyried defnyddio cynllun microgynhyrchu, mae'n bosibl y bydd angen ichi gael caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.
Er enghraifft, mae'n debygol y bydd yn rhaid ichi gael caniatâd cynllunio i godi tyrbin gwynt.
Mae'n bosibl hefyd y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer y mathau eraill o welliannau hefyd, er enghraifft, os bydd angen ichi helaethu eich cartref i greu lle ar gyfer boeler, neu os bydd angen ichi newid y simnai neu'r ffliw (mae'n bosibl y bydd angen iddo fod yn fwy, yn uwch neu fod angen newid y leinin). Cyn cychwyn ar waith, dylech gysylltu â'n hadain Gwasanaethau Cynllunio neu'r Rheoliadau Adeiladu. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar y wefan hon yn yr adran 'Yr Amgylchedd a Chynllunio'.