I gofrestru ar gyfer cael cartref fforddiadwy bydd yn rhaid ichi gwblhau ffurflen gais ar gyfer y Gofrestr Dewis Tai.
Bellach gallwch wneud cais am gartref fforddiadwy ar-lein drwy gwblhau ein ffurflen electronig.
Ffurflen Gais Ar-lein ar gyfer Tai Fforddiadwy.
Fel arall, cwblhewch ffurflen gais ar bapur a'i dychwelyd at unrhyw Swyddfa Dai Ranbarthol neu Swyddfa Cymdeithas Dai yn Sir Gaerfyrddin (mae'r cyfeiriadau ar y ffurflen)
Gallwch gael gafael ar ffurflen gais y Gofrestr Dewis Tai drwy:
- galw yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid
- ysgrifennu at Y Gwasanaethau Tai, Cyngor Sir Caerfyrddin, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP
- cysylltu â'r Tîm Perchentyaeth drwy ffonio 01554 742196
- ffacsio eich cais i'r rhif canlynol - 01554 742192
- anfon neges e-bost at tai@sirgar.gov.uk
- defnyddio minicom - 01267 223867
- anfon neges destun i'r rhif canlynol - 07766 406506
- lawrlwytho ffurflen gais o'n gwefan a'i hargraffu
Os oes gennych ddiddordeb mewn tai sydd ar rent a thai sydd ar werth, bydd angen ichi gwblhau ffurflen ar bapur ac ateb yr holl gwestiynau.
Bydd angen ichi roi manylion inni am eich incwm pan fydd cyfle'n codi i gael cartref fforddiadwy, ond nid oes angen y manylion hyn arnom yn y lle cyntaf.
Hefyd gallwch gwblhau'r cais papur ond dim ond yr adrannau ar dudalen 3 y mae angen ichi eu llenwi. Peidiwch ag anghofio ticio'r blwch ar dudalen 3 i ddangos bod gennych ddiddordeb mewn cartrefi fforddiadwy sydd ar werth.