Hepgor gwe-lywio | Newid maint y testun AAA |  Testun yn Unig | Cymorth | Cysylltwch â ni
Tai Fforddiadwy 
woman standing outside her council house

Cartrefi fforddiadwy yw cartrefi o safon da, ar rent neu ar werth, gyda phrisiau sydd o fewn cyrraedd y mwyafrif o deuluoedd lleol.

Rydyn ni eisiau helpu cymaint o bobl lleol â phosibl i ddod o hyd i gartrefi sy’n diwallu eu anghenion.  Felly rydyn ni’n defnyddio pob ffordd sydd ar gael i ddarparu cartrefi fforddiadwy.
 
Mae’n hollbwysig hefyd bod cartrefi’n aros yn fforddiadwy yn y dyfodol.  Ar gyfer cartrefi fforddiadwy ar werth, mae’n rhaid i chi arwyddo cytundeb cyfreithiol cyn i chi brynu’ch  cartref. Ar gyfer cartrefi fforddiadwy ar rent, bydd lefel y rhent yn cael ei amddiffyn gan gytundeb cyfreithiol, neu oherwydd bod cymdeithas tai yn rheoli’r eiddo.

Beth yw’r Cyngor yn gwneud?

Rydyn ni’n darparu tai fforddiadwy trwy:

  • roi tir yr ydyn ni’n berchen arno ar gyfer tai fforddiadwy 
  • ofalu bod tai fforddiadwy ar gael ar ddatblygiadau tai newydd yn y sector preifat
  • weithio gyda chymdeithasau tai lleol i gynyddu nifer y cartrefi newydd sydd ar gael i’w rhentu a’u prynu
  • hybu cymorthdaliadau i deuluoedd ar incwm isel i’w helpu i brynu cartrefi trwy’ Cynllun Cymorth Prynu
  • ofalu mai dim ond i deuluoedd lleol y bydd cartrefi a gafodd eu prynu mewn ardaloedd gwledig dan y cynllun Hawl i Brynu cael eu gwerthu ymlaen
  • helpu cymunedau i sefydlu ymddiriedolaethau tir cymunedol
  • hybu hunanadeiladu cymunedol
  • ei gwneud hi’n haws i bobl wneud cais am dai fforddiadwy. 

Sut ydw i’n gallu dod o hyd i mwy o wybodaeth?

  • gofynwch am ein cyhoeddiad Cam yn y cyfeiriad cywir – crynodeb o’n polisi ar dai fforddiadwy yn unrhyw canolfan gwasanaeth cwsmeriaid, neu cliciwch ar y ddolen ar tudalen yma i ddadlwytho copi
  • ffoniwch ein Tîm Perchnogaeth ar 01554 742196 i drafod eich anghenion

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/3/2010
 
Manylion Cysyllt
 

Swyddog Perchnogaeth Tai

Ffon: 01554 742196
Facs: 01554 742192

Ebost: Tai@sirgar.gov.uk 

Negeseuon testun: 07766 406506
Gwasanaeth Minicom: 01267 223867