Datganiad Polisi Ynghylch Recriwtio Cyn-Droseddwyr
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 28/8/2008
Datganiad Polisi Ynghylch Recriwtio Cyn-Droseddwyr 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn defnyddio gwasanaeth datgelu gwybodaeth (Disclosure) y Swyddfa Cofnodion Troseddol er mwyn asesu a yw'n briodol penodi ymgeiswyr i swydd gyfrifol ac yn cydymffurfio'n llawn â Chôd Ymarfer y Swyddfa Cofnodion Troseddol ac yn ymrwymo i ymdrin yn deg â phob ymgeisydd am swydd. Mae'n ymrwymo i beidio â gwahaniaethu'n annheg yn erbyn ymgeiswyr sy'n datgelu euogfarn neu wybodaeth arall.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymrwymo i ymdrin yn deg â'i staff, darpar aelodau staff a'r rheiny sy'n defnyddio'i wasanaethau waeth beth fo'u hil, rhyw, crefydd, tueddfryd rhywiol, cyfrifoldeb dros ddibynyddion, oed, anabledd corfforol/meddyliol neu gefndir troseddol.

Rydym yn hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb sy'n meddu ar y cyfuniad cywir o ddawn, gallu ac addewid a chroesewir ceisiadau oddi wrth ystod eang o ymgeiswyr, yn cynnwys pobl sydd â chofnod troseddol. Rydym yn dewis pa ymgeiswyr fydd yn cael eu cyfweld ar sail eu sgiliau, eu cymwysterau a'u profiad.

Ni ofynnir am ddatgeliad oni bai fod asesiad risg trylwyr yn nodi ei fod yn gam cymesur a pherthnasol i'r swydd dan sylw. Pan fo rhaid gofyn am ddatgeliad ar gyfer swydd, bydd y pecyn cais a'r hysbyseb yn nodi'n glir y bydd y Cyngor yn gofyn am ddatgeliad pan gynigir swydd i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Pan fydd y broses o ddatgelu gwybodaeth yn rhan o'r broses recriwtio gofynnir i ymgeiswyr nodi gwybodaeth ynghylch eu cofnod troseddol ar y ffurflen gais. Gallwn sicrhau ymgeiswyr na fydd gwybodaeth a ddateglir yn cael ei dangos i neb ac eithrio fel rhan o'r broses recriwtio ac ni fydd y manylion hyn yn cael eu hystyried wrth lunio'r rhestr-fer.

Oni bai fod natur y swydd yn caniatau i Gyngor Sir Caerfyrddin ofyn cwestiynau am gofnod troseddol cyfan ymgeiswyr, byddwn yn gofyn am fanylion ynghylch euogfarnau cyfredol yn unol â diffiniad Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974.

Rydym yn sicrhau bod pawb o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n rhan o'r broses recriwtio yn derbyn cyfarwyddyd o ran clustnodi ac asesu perthnasedd ac amgylchiadau troseddau. Rydym yn sicrhau hefyd eu bod yn derbyn cyfarwyddyd priodol ynghylch y deddfau perthansol sy'n ymwneud â chyflogi cyn-droseddwyr e.e. Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974.

Mewn trafodaeth, ar wahân i'r cyfweliad, byddwn yn sicrhau trafodaeth agored ac ystyriol ynghylch troseddau neu unrhyw fater arall a allai fod yn berthnasol i'r swydd. Gall methu â datgelu gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i'r swydd y gwneir cais amdani arwain at dynnu'r cynnig o swydd yn ôl.

Rydym yn tynnu sylw pob unigolyn sy'n destun datgeliad CRB at fodolaeth Côd Ymarfer y CRB ac yn darparu copi os gofynnir am un.

Rydym yn ymrwymo i drafod unrhyw fater a ddaw i'r amlwg yn ystod y datgeliad gyda'r ymgeisydd cyn tynnu cynnig amodol o swydd yn ôl.

Ni fydd datgelu cofnod troseddol o reidrwydd yn rhwystr rhag cael eich penodi. Mae'n dibynnu ar natur y swydd, yr amgylchiadau a chefndir eich troseddau.