Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Digital Services; : Llif Newyddion;>  | fersiwn symudol  | Teledu Digidol
Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin 
Cyngor Ieuenctid

Sefydlwyd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2003, a hynny gan bobl ifanc i bobl ifanc.

Mae'r Cyngor wedi parhau i dyfu a datblygu byth ers hynny. Mae'r Cyngor yn cynnwys 30 o bobl ifanc frwdfrydig o Sir Gaerfyrddin sydd rhwng 14 a 25 oed. 


 
Beth yw rôl Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin?
Rhoi llais i safbwyntiau pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yw nod Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ... trwy roi cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu'n ystyrlon i benderfyniadau ynghylch materion sy'n effeithio ar eu bywydau a rhoi newidiadau cadarnhaol ar waith.
“Rydym o'r farn fod gan bobl ifanc hawl i leisio barn, a bod eu sylwadau nhw cyn bwysiced â'r hyn sydd gan oedolion i'w ddweud.”


Beth yw'r nod?
bod o fudd i holl bobl ifanc Sir Gaerfyrddin sydd rhwng 11 a 25 oed.
bod yn llais i holl bobl ifanc Sir Gaerfyrddin.
bod yn gyfrwng i newidiadau a datblygiadau cadarnhaol.
creu cyfleoedd i bobl ifanc gyfrannu at brosesau democrataidd / gwneud penderfyniadau yn yr Awdurdod ac ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Caiff yr aelodau eu hethol i Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin o'r chwe Fforwm Ieuenctid Rhanbarthol (Aman, Gwendraeth, Llanelli, Taf Myrddin, Tywi a Theifi).  Mae gan bob Fforwm Ieuenctid 5 cynrychiolydd. Gall unrhyw un sydd rhwng 11 a 25 oed fod yn aelod o'i Fforwm Ieuenctid Lleol.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/8/2009
 
Manylion Cysyllt
 
Am fanylion pellach cysylltwch Sarah Powell, Swyddog Cyfranogiad Ieuenctid ar: 01267 224326