Mae pobl sy'n casglu cocos yn cael eu rhybuddio i beidio â gyrru eu cerbydau ar draeth Cefn Sidan, Pen-bre pan fydd y bysgodfa gocos leol yn ailagor.
Dywedodd Philip Davies, Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Rydym ni'n gwybod y bydd rhan o bysgodfa gocos y Tair Afon yn ailagor yn yr wythnosau nesaf.
"Mae angen i ni roi gwybod i bawb sy'n casglu cocos ar hyd aber afon Gwendraeth nad oes caniatâd i gerbydau gael mynediad ar hyd traeth Cefn Sidan.
"Bydd casglwyr cocos sy'n gyrru cerbydau oddi ar y ffordd yn yr ardal hon yn cael eu herlyn dan Adran 34 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988."
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Roger Butler, Swyddog y Wasg, drwy ffonio 01267 224114.