Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Digital Services; : Llif Newyddion;>  | fersiwn symudol  | Teledu Digidol
Cystadleuaeth Doniau Ifanc 
21.01.2010 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ar y cyd â Fforwm Ieuenctid y 3T yn cynnal Sioe Sêr Sir Gâr i bobl ifanc sydd rhwng 11-25 oed.
Dyma gyfle i bobl ifanc gael sylw a dangos eu doniau.
Mae'r gystadleuaeth yn agored i unawdwyr, bandiau a chorau yn ogystal ag unrhyw ddoniau unigryw!
Ac mae gwobr o £200 ar gael i'r enillydd.
Dywedodd Sioned Evans, sy'n aelod o Fforwm Ieuenctid y 3T:
“Dyma'r tro cyntaf inni gynnal digwyddiad o'r math hwn i bobl ifanc y Sir, ac rydym yn hyderus y bydd yn brofiad gwych i bawb. Mae gennym lawer o bobl ifanc ddawnus yn Sir Gaerfyrddin ac rydym am eu hannog i fanteisio ar y cyfle hwn.”

Dyddiadau'r Rhagbrofion:
Chwefror 24 - Ysgol Pantycelyn
Mawrth 3 – Neuadd Glenalla, Llanelli
Mawrth 15 – Ysgol Dyffryn Aman
Mawrth 10 – Ysgol Emlyn
Mawrth 19 – Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

Y Rownd Derfynol:
Mawrth 26 - Neuadd San Pedr, Caerfyrddin


I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01267 228208 neu e-bostiwch FBeale@sirgar.gov.uk