Tudalen wedi ei diweddaru ar 20/9/2011
Ymgynghori ynghylch cynlluniau i newid, neu atal, y cynllun Hawl i Brynu
GOFYNNIR i bobl y mae tai cyngor o ddiddordeb iddynt a ydynt am gyfrannu at ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ynghylch cynlluniau i newid, neu atal, y cynllun Hawl i Brynu.
Er mwyn gofalu fod tai cymdeithasol yn dal i fod ar gael mewn cyfnod o bwysau anghyffredin, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi caniatâd i awdurdodau lleol unigol atal yr Hawl i Brynu yn eu hardaloedd am hyd at bum mlynedd.
Gellir cyfyngu unrhyw fwriad i atal i ardaloedd penodol neu fathau o eiddo, yn ôl yr angen am dai yn yr ardal.
Hefyd mae'n bosibl yr effeithir ar yr Hawl i Gaffael sydd gan denantiaid sicr cymdeithasau tai.
Mae adran dai Cyngor Sir Caerfyrddin am i'r tenantiaid, y preswylwyr, a'r cyhoedd yn gyffredinol gyflwyno eu sylwadau cyn bod penderfyniad yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru.
Mae swyddogion tai yn helpu i roi cyhoeddusrwydd i'r ymgynghoriad ac yn annog pobl i ymateb erbyn diwedd mis Hydref.
Dywedodd Robin Staines, Pennaeth y Gwasanaethau Tai: “Byddai atal y cynllun Hawl i Brynu mewn ardaloedd penodol yn golygu y gall y cyngor, i bob pwrpas, gadw ei stoc dai fel bod modd dal ati i ateb y galw yn yr ardaloedd lle mae'r angen am dai ar ei fwyaf.
“Gallai hyn gael ei gyfyngu i ardaloedd penodol neu fathau o eiddo megis cartrefi tair ystafell wely, gan fod galw mawr am y rheiny gan deuluoedd.
“Mae'n bwysig fod pobl yn deall rhesymau Llywodraeth Cymru dros ystyried newid, neu atal, y cynllun, ac mae'r un mor bwysig fod pobl yn mynegi eu barn cyn diwedd y cyfnod ymgynghori."
Gall pobl sydd am gyflwyno sylwadau naill ai ymateb yn gyffredinol neu ateb cyfres o gwestiynau am faterion penodol sy'n rhoi amcan o'r galw sydd am dai.
Cysylltwch â Sian Stephens o Gyngor Sir Caerfyrddin drwy ffonio 01554 742196 neu drwy anfon neges e-bost at SStephens@sirgar.gov.uk erbyn diwedd mis Medi.
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth ac am ymateb yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru gallwch fynd i www.wales.gov.uk/consultations hyd at Hydref 31ain.