Mae grŵp o fricwyr a gyflogir gan y Cyngor wedi rhoi'r tywod a'r sment o'r neilltu am y tro a rhoi'u sylw i bibelli a phlygiadau penelin mewn ymgais i helpu'r awdurdod i glirio’r rhestr aros ar gyfer addasu ystafelloedd ymolchi, drwy osod cawodydd.
Mae'r bricwyr, a gyflogir gan Is-adran Gwasanaethau Adeiladau'r Cyngor, wedi bod ar gwrs sgiliau sylfaenol mewn plymwaith ar gampws Coleg Sir Gâr yn Rhydaman.
Y staff awgrymodd yr hyfforddiant ychwanegol, fel rhan o ymdrechion parhaus y Cyngor i arbed arian drwy weithredu'n fwy effeithlon lle bynnag ag y bo modd.
Mae'n golygu bod ganddynt amryw o sgiliau bellach, a'u bod yn gallu helpu i osod cawodydd i denantiaid sy'n byw mewn tai cyngor.
Dywedodd Phil Lumley, Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo: “Cafodd ein cynllun awgrymiadau staff ei ddefnyddio gan grŵp o'n bricwyr i gynnig eu gwasanaethau os gallent gael hyfforddiant sylfaenol mewn sgiliau plymwaith.
“Roeddem yn meddwl bod hyn yn ateb delfrydol i'n helpu i glirio’r rhestr aros yn ardal Llanelli ar gyfer addasu ystafelloedd ymolchi drwy osod cawodydd, ac ar yr un pryd gaboli sgiliau ein gweithlu a chael gwared ar yr angen i'r Awdurdod gyflogi contractwyr allanol i wneud gwaith plymer.
“Mae pedwar briciwr wedi cymryd rhan yn y cwrs plymwaith, a ddarparwyd gan ein partneriaid yng Ngholeg Sir Gâr.”
Darperir cawodydd i denantiaid y mae therapyddion galwedigaethol wedi asesu bod arnynt angen mynediad haws i gyfleusterau ystafell ymolchi.
Mae tîm y Gwasanaethau Adeiladau yn mynd i'r preswylfeydd, yn cael gwared ar y baths ac yn gosod cawodydd di-ris neu lecyn 'llawr gwlyb' a chawodydd trydan thermostatig newydd sydd wedi'u hamgáu ac sydd â chanllawiau a seddi plygu wedi’u gosod ynddynt.
Mae Is-adran y Gwasanaethau Adeiladau yn rhan o Adran Gwasanaethau Technegol y Cyngor, ac mae'n gyfrifol am atgyweirio, cynnal a chadw a gwella asedau eiddo'r Cyngor, sy'n cynnwys mwy na 9,200 o dai cyngor, ysgolion, cyfleusterau hamdden a sefydliadau gofal cymdeithasol.
Mae'r Is-adran yn cyflogi ei chrefftwyr ei hun, gan gynnwys bricwyr, plastrwyr a thrydanwyr, ac mae hefyd yn gweithio gyda chontractwyr allanol i sicrhau bod ei hasedau eiddo'n cael eu cynnal a'u cadw a'u bod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros y Gwasanaethau Technegol: “Roedd yn bleser clywed bod y bricwyr hyn wedi awgrymu yr hoffent gael hyfforddiant mewn plymwaith er mwyn helpu'r awdurdod i ymdopi â'r galw am addasiadau drwy osod cawodydd.
“Yn ogystal â'n helpu ni i ddarparu gwasanaeth i nifer o'n tenantiaid, maen nhw wedi helpu'r Awdurdod i arbed arian hefyd ac mae'n rhaid eu canmol am hynny.”