Mae pobl hŷn yn Sir Gaerfyrddin wedi cael cyfle i roi gwybod i Lywodraeth Cynulliad Cymru pa wasanaethau, yn eu barn nhw, sy'n flaenoriaeth.
Bu i aelodau Grŵp Llywio y Fforwm 50+ gwrdd â Jane Hutt, sef y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, pan ymwelodd hi â chanolfan gyswllt Galw Sir Gâr yn Llandeilo.
Treuliodd y Grŵp Llywio ryw 45 munud yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog ynghylch y gwasanaethau yr oedd yn hollbwysig, ym marn y Grŵp, eu bod yn cael eu diogelu wrth i doriadau ddigwydd yn y sector cyhoeddus. Yna aeth yr aelodau ar grwydr o amgylch canolfan Galw Sir Gâr.
Dywedodd y Cyng. Kevin Madge, sef yr Hyrwyddwr 50+: "Roedd hwn yn gyfle da i sicrhau bod buddiannau pobl yn cael sylw.
“Ar ben hynny roedd y cyfarfod yn cadarnhau statws y grŵp llywio fel llais credadwy ar ran pobl hŷn.”
Pennawd: Y Cyng. Kevin Madge, Hyrwyddwr 50+ Cyngor Sir Caerfyrddin, gyda Jane Hutt, y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb yn Llywodraeth Cynulliad Cymru, yng nghanolfan gyswllt Galw Sir Gâr.
Llun: Terry Morris
