Mae masnachwyr yn Heol y Brenin, Caerfyrddin, yn derbyn llu o gamau cynorthwyol gan Gyngor Sir Caerfyrddin i’w helpu i wneud elw dros y Nadolig. Y newyddion da i’r masnachwyr yw bod modd parcio am awr am 50c ym maes parcio San Pedr, gwasanaeth Parcio a Theithio newydd ar gyfer yr ochr honno o’r dref, a mynegbyst newydd i gyd yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyfnod y gwyliau. Bu’r Cyng. Philip Hughes, yr aelod o fwrdd gweithredol y Cyngor dros wasanaethau trafnidiaeth, yn gwthio i sicrhau bod modd parcio am awr ym maes parcio San Pedr am 50c.
Meddai: “Mae swyddogion ac aelodau wedi bod yn gweithio gyda dros ddwsin o fasnachwyr Heol y Brenin i gefnogi a gwella hyfywedd economaidd canol y dref, gan edrych ar Heol y Brenin, Heol y Frenhines a Maes Nott yn arbennig.
“Bydd codi 50c am barcio am awr ym maes parcio San Pedr yn cael effaith gadarnhaol ar nifer y bobl sy’n dod yno, ac yn helpu gyda datblygiad economaidd canol y dref.”
O’r blaen, y cyfnod byrraf oedd hyd at ddwy awr, a’r gost oedd £1.10.
Dywedodd y Cyng. Hughes fod y masnachwyr hefyd yn awyddus i elwa ar fanteision y gwasanaeth bws Parcio a Theithio hynod lwyddiannus a phoblogaidd sy’n gwasanaethu terminws Nant-y-ci a Heol Awst.
“O 11 Rhagfyr, ar hyd cyfnod y Nadolig, ac i mewn i gyfnod y gwerthiannau ar ôl y gwyliau, rydym ni’n cyflwyno gwasanaeth ar ben y gwasanaeth presennol, a fydd yn rhedeg i faes parcio San Pedr.”
“Mae mynegbyst newydd wedi cael eu paratoi’n arbennig o gyflym er mwyn sicrhau bod cysylltiadau da â Heol y Brenin a’r cynnydd yn nifer y bobl a grëwyd gan ddatblygiad canolfan siopa Dewi Sant.
“Rhaid i ni beidio ag anghofio bod gennym hefyd gonsesiwn parcio am ddim adeg y Nadolig ar draws y sir. Mae’n sicr yn newyddion da i siopwyr a masnachwyr fel ei gilydd.”
Dywedodd y Cyng. Hughes ei fod hefyd wrth ei fodd yn cytuno ar adroddiad oedd yn argymell cyfrannu at Gynllun Shopmobility Caerfyrddin, a fydd yn gwella hygyrchedd pob rhan o’r dref i’r rhai sy’n llai symudol.
Yn ôl cynghorydd sir canol y dref, Steve Dunn: “Rydym ni wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r masnachwyr i ymateb i’w pryderon a sicrhau bod y mesurau hyn yn eu lle yn barod at y Nadolig.”
PENNAWD: DANGOS Y FFORDD: Y Cynghorwyr Sir Steve Dunn a Phil Hughes, sydd hefyd yn aelod o’r bwrdd gweithredol dros wasanaethau trafnidiaeth, gyda rheolwr trafnidiaeth a pheirianneg y sir, Trevor Sage, ym mhen uchaf Heol y Brenin, lle mae llu o gamau cynorthwyol yn cael eu cyflwyno i helpu masnachwyr.