English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 10/1/2012
Menyw yn derbyn dirwy am beidio â chydymffurfio â'r cynllun ailgylchu 

Mae menyw o Lanelli wedi derbyn dirwy o £175 ac fe'i gorchmynnwyd i dalu £336.29 o gostau'r llys am fethu â chydymffurfio â chynllun ailgylchu y Cyngor o dŷ i dŷ.
Cafwyd Carol Ann Thorne, 39 oed, o Stryd Stafford, yn euog yn ei habsenoldeb o drosedd yn groes i Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn Llys Ynadon Rhydaman.
Dygwyd yr achos gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Clywodd y llys fod swyddogion gorfodi materion amgylcheddol y Cyngor ar batrôl ddydd Gwener, 6 Mai, 2011 pan welsant fod rhai bagiau glas wedi cael eu gadael allan ar ôl y diwrnod casglu.
Aeth y swyddogion ati i archwilio'r bagiau a gwelsant eu bod wedi cael eu halogi gan wastraff bwyd. Yn ogystal, daethant o hyd i dystiolaeth yn ymwneud â Carol Ann Thorne.

Drwy ymchwilio rhagor cafwyd gwybod bod Thorne eisoes wedi cael hysbysiad saith mis yn gynharach a oedd yn mynnu ei bod yn rhoi'r deunyddiau cywir yn y bagiau glas.
Yn dilyn sawl ymdrech i gysylltu â Thorne, rhoddodd y swyddogion hysbysiad cosb benodedig am £100 iddi am dorri'r gofynion a nodwyd yn yr hysbysiad. Fodd bynnag, methodd â thalu hwn yn yr amser a bennwyd a chafodd ei herlyn yn y llys o ganlyniad.
Y gobaith nawr yw y bydd yr achos hwn yn rhybudd i breswylwyr eraill sydd ddim yn cydymffurfio â chynllun ailgylchu y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae'n bwysig bod pobl yn rhoi'r deunyddiau cywir yn eu bagiau ailgylchu glas. Os nad yw preswylwyr yn sicr mae croeso iddynt gysylltu â ni a bydd ein swyddogion yn fwy na pharod i'w helpu.
“Dydym ni ddim eisiau rhoi dirwyon i bobl; rydym yn awyddus i sicrhau bod ailgylchu mor hawdd â phosibl. Fodd bynnag, os bydd preswylwyr yn anwybyddu cyngor a rhybuddion y Cyngor o hyd ni fydd dewis ond eu herlyn.

“Mae gan y Cyngor dargedau ailgylchu/compostio llym i'w cyrraedd ac mae'n rhaid iddo leihau faint o wastraff sy'n cael ei gladdu neu gallai wynebu dirwyon mawr. Mae gennym ni i gyd ran i'w chwarae yn y mater hwn ac rwy'n gobeithio y bydd preswylwyr yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn cydymffurfio â'n cynllun ailgylchu cymaint â phosibl."
I gael cymorth a chyngor ynghylch yr hyn y gellir ei roi mewn bagiau glas neu i gael gwybodaeth arall am ailgylchu edrychwch ar www.sirgar.gov.uk/ailgylchu Yn ogystal gallwch gysylltu â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567.