We want your old tyres

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Rydym am eich hen deiars 

 

Anogir preswylwyr i fynd ag unrhyw hen deiars sydd ganddynt i bwyntiau casglu yn Sir Gaerfyrddin drwy gydol mis Chwefror.

 

'Trefi Taclus' sy'n trefnu'r amnest teiars er mwyn annog pobl i waredu eu gwastraff mewn modd cyfrifol ac er mwyn helpu i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon.   Gall preswylwyr gael gwared ar hyd at 10 o deiars am ddim mewn pwyntiau casglu yn y mannau canlynol:

 

Castellnewydd Emlyn, Hendy-gwyn, Caerfyrddin, Cross Hands, Rhydaman a Llanelli.

 

Mae cwmnïoedd teiars yn codi tâl am unrhyw deiars y maen nhw'n eu gwaredu, felly mae teiars a adewir yn anghyfreithlon yn broblem nid yn unig yn Sir Gaerfyrddin ond ar draws y Deyrnas Unedig.   Yn ogystal â bod yn ddolur llygad mae tipio anghyfreithlon yn costio miliynau o bunnoedd i'r awdurdod bob blwyddyn o ran glanhau, ac mae'n niweidio bywyd gwyllt a'r amgylchedd.

 

Hwn yw'r trydydd amnest teiars sydd wedi ei drefnu gan Drefi Taclus, sef menter a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a gynhelir drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Chadwch Gymru'n Daclus.

 

Dywedodd Simon Troake, swyddog prosiect Trefi Taclus: “Mae tua 450,000 tunnell o deiars yn dod i ddiwedd eu hoes yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn, ac mae'n rhaid eu hailddefnyddio neu eu gwaredu rywfodd neu'i gilydd. Mae'n cael ei amcangyfrif fod awdurdodau lleol, perchnogion tir, diwydiannau, a'r gwasanaethau brys yn talu mwy na £2.3 miliwn y flwyddyn am ymchwilio i achosion o deiars sy'n cael eu tipio'n anghyfreithlon ac am eu clirio.

 

“Rydym yn gobeithio y bydd yr amnest yn annog pobl i wneud y peth iawn ac i waredu eu gwastraff mewn ffordd gyfrifol."

 

Mae'n rhaid i'r preswylwyr sy'n mynd â'r teiars yno ddangos prawf eu bod yn byw yn Sir Gaerfyrddin.  Ni dderbynnir teiars cerbydau masnachol nac amaethyddol.

Hefyd, dylai pobl gofio y caiff unrhyw achosion o adael teiars ac eithrio yn ystod yr amserau isod eu hystyried yn dipio anghyfreithlon, ac y gallent gael dirwy o hyd at £50,000 neu gael eu carcharu hyd yn oed.

 

Meddai'r Cynghorydd Clive Scourfield, sef yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio:  “Mae'r amnestau teiars blaenorol rydym wedi eu cynnal wedi bod yn llwyddiannus iawn, ac rydym wedi casglu 10,000 o deiars yn y ddwy flynedd diwethaf, sy'n nifer uchel eithriadol. Mae hyn yn golygu bod llai o deiars ar hyd y lle a allai gael eu gadael yn ein trefi a'n pentrefi, gan sbwylio ein hardaloedd gwledig hyfryd a'n traethau godidog.

 

“Rydym ni'n benderfynol o wella ansawdd yr amgylchedd lleol ar gyfer preswylwyr Sir Gaerfyrddin a'r rhai sy'n ymweld â'r sir.”

Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 30/1/2012