Artist Cymreig

English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Artist Cymreig 

Pictured with a Christopher Williams painting are Llanelli Town Council vice chair Roger Price and his consort Ruth, lecturer DyAeth Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin i ddarlith ynghylch Christopher Williams, sef artist Cymreig o Landybïe.
Dywedodd y Cynghorydd Siân Thomas fod y ddarlith ym Mharc Howard, Llanelli yn ddiddorol oherwydd bod Christopher Williams yn artist mor dda ond does neb yn gwybod amdano.
Dywedodd: “Yn fy marn i, dylem roi mwy o bwyslais ar ein celf frodorol ac ymfalchïo ynddi. Rydym ni'r Cymry yn rhoi pwyslais mawr ar gerddoriaeth, cân, barddoniaeth a chelf glywedol ond dim digon o bwyslais ar y celfyddydau gweledol."
Cynhaliwyd y ddarlith gan Dylan Rees, sy'n ddarlithydd hanes yng Ngholeg Gŵyr, Gorseinon. Aeth Christopher Williams (1873-1934) yn erbyn cynlluniau ei dad iddo fod yn feddyg a hynny ar ôl ymweld ag Oriel Gelf Walker, Lerpwl ym 1892.  Daeth o'r Oriel yn benderfynol o fod yn artist.
Ym 1911, derbyniodd gomisiwn gan y Brenin George V i weithio ar baentiad coffaol o Arwisgiad Edward, Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon. Roedd y canlynol ymysg ei bortreadau; Y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George, Syr John Williams, Syr John Rhys, Syr Henry Jones, Syr John Morris Jones, Dr Stanton Coit, Syr Frederick Mills, John Hinds AS. Paentiodd y cyntaf o dri phortread o Lloyd George yn Haf 1911. Disgrifiodd Lloyd George ef fel "un o artistiaid mwyaf talentog Cymru."
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, paentiodd ddarlun o gyrch y Cymry yng nghoedwig Mametz sydd bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Mae arddangosfa ôl-syllol fawr o waith Christopher Williams yn cael ei chynnal hyd nes mis Medi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
Yn y llun gydag un o baentiadau Christopher Williams mae Roger Price, Is-gadeirydd Cyngor Tref Llanelli a'i gymar Ruth; Dylan Rees, y darlithydd; y Cynghorydd Siân Thomas, Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin a'i chymar Dafydd; a Colin Robbins, Cadeirydd  Cymdeithas Gelfyddydau Llanelli.
Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/8/2012