Trigolion y sir yn dylanwadu ar ddyfodol TrawsCambria
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Trigolion y sir yn dylanwadu ar ddyfodol TrawsCambria 
27/10/2010 

Mae teithwyr o Sir Gaerfyrddin sy’n defnyddio gwasanaeth bws TrawsCambria Cymru wedi cael rhoi eu barn ar y dull o gyflwyno gwasanaethau.
Cynhaliwyd cyfres o ymgynghoriadau cyhoeddus, a chafodd teithwyr yr X40 gyfle i leisio’u barn yn Swyddfa Bost Llanbedr-pont-Steffan. Mae gwasanaeth bws yr X40 rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, sy’n mynd trwy Bencader, Llanybydder, Llanbedr-pont-Steffan ac Aberaeron yn cludo degau o filoedd o deithwyr bob blwyddyn. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwneud cyfraniad o fwy na £76,000 y flwyddyn i wasanaethau TrawsCambria.
Yn ôl Philip Hughes, yr aelod o fwrdd gweithredol y Sir dros wasanaethau trafnidiaeth, mae hwn yn wasanaeth hollbwysig sy’n helpu pobl mewn cymunedau gwledig i gysylltu â chanolfannau trafnidiaeth. Roedd wrth ei fodd eu bod wedi cael eu grymuso i roi barn ar wella’r gwasanaeth. Bu’n canmol y Cynulliad am roi cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaeth godi llais.
Meddai’r Cyng. Hughes: “Cynhaliwyd proses ymgynghori sylweddol, ac roedd yn dda gweld cynifer o bobl o Sir Gaerfyrddin yn dadlau dros gynnal a gwella teithiau hir di-fwlch ar draws Cymru, gan gysylltu’r ffordd a’r rheilffordd.”
Mae rhwydwaith teithiau canolig a hir TrawsCambria, a sefydlwyd dros 30 mlynedd yn ôl, yn darparu cysylltiadau cludiant cyhoeddus hanfodol rhwng prif ganolfannau ar gyfer dros hanner miliwn o deithwyr y flwyddyn. Mae’n effeithio’n bennaf ar deithwyr yn nhriongl Llambed, Aberaeron ac Aberystwyth.
Fel rhan o adolygiad o’r rhwydwaith, mae canlyniadau ymgynghoriadau cyhoeddus mis Medi yn cael eu dadansoddi gan y Cynulliad er mwyn ystyried ystod o welliannau posibl. Cyhoeddir y canlyniadau yn 2011.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaeth bws TrawsCambria ar gael yn: http://www.carmarthenshire.gov.uk/english/transport/buses/pages/westwalesroverticket.aspx ??