Cafodd 12,000 o ddisgyblion y sir eu hysbrydoli gan werthoedd y Gemau Olympaidd yn sgil 'Taith Fflam Sir Gâr' oedd wedi para am fis cyfan.
Bu Uned Datblygu Chwaraeon Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gydag ysgolion a cholegau a nifer o wahanol bartneriaid i roi amrywiol gyfleoedd i ddisgyblion gymryd rhan yn y digwyddiad trwy gyfrwng gweithgareddau chwaraeon ac eraill.
Cafodd y ffagl ei chludo ar droed ac mewn caiac ar afon Tywi.
Teithiodd fwy na 200 milltir ar hyd a lled y sir rhwng 27 Chwefror a 27 Mawrth i baratoi'r ffordd ar gyfer y Fflam Olympaidd swyddogol a fydd yn teithio drwy'r sir ar 27 Mai, cyn agoriad swyddogol y Gemau Olympaidd ar 27 Gorffennaf.
Dywedodd Carl Daniels, Cydgysylltydd Pobl Ifanc Egnïol: "Mae ‘Taith Fflam Sir Gâr’ wedi helpu pobl ifanc y sir i ddeall y brwdfrydedd y mae'r Gemau Olympaidd yn ei ysgogi ac i fod yn fwy egnïol o ganlyniad i hynny."
Cychwynnodd y daith yn Ysgol Emlyn ar 27 Chwefror gan orffen ym Mhantycelyn ar 26 Mawrth. Treuliodd y ffagl o leiaf ddiwrnod ym mhob un o'r 18 ysgol uwchradd ac ysgol arbennig yn y sir.
Dywedodd Julie Griffiths, Pennaeth Ysgol Pantycelyn fod y ffagl wedi rhoi cyfle unigryw i ysgolion gymryd rhan ym mwrlwm y Gemau Olympaidd.
"Mae'n drueni mawr na fydd y fflam Olympaidd swyddogol yn dod i'r ysgol. Ond yn llygaid ein disgyblion ni, mae ffagl Sir Gâr a gynlluniwyd yn arbennig ar siâp cenhinen Bedr lawn cystal ac yr un mor bwysig.
"Mae wedi rhoi hwb mawr i’r ysgol ac i’r plant o ran ysgogi diddordeb yn y Gemau Olympaidd. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i'r tîm datblygu chwaraeon am weithio mor galed i drefnu'r digwyddiad drwy'r sir gyfan." meddai.
