Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at
gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Tesco yn ennill y frwydr am siop fwyd ym Mhorth Tywyn
11/02/2011
MAE Tesco yn dod â siop newydd i Borth Tywyn a gallai fod yn agor erbyn Nadolig 2012.
Bydd datblygiad y siop fwyd newydd yn sicrhau ugeiniau o swyddi i'r gymuned glan môr sydd y dref fwyaf ond dwy yn Sir Gâr.
Roedd amryw o gwmnïau wedi dangos diddordeb yn y tir hwn sy'n rhan o Gyd-fenter Morlan Elli a elwir Cae'r Ffair. Mae'r tir rhwng Gwesty'r Neptune a Harbwr Porth Tywyn.
Mae'r datblygiad bron yn 24,000 troedfedd sgwâr gydag addewid o 145 lle parcio ac mae amodau dylunio a fydd yn cysylltu hwn â datblygiadau eraill yn yr ardal.
Bydd y siop fwyd yn cynnwys peiriant arian parod a llwybrau i gerddwyr i'r gorllewin a'r gogledd.
Nid yw'r contractau wedi cael eu cyfnewid eto ond bydd y derbyniadau cyfalaf a ddaw i law ar gyfer tir y Cyd-fenter yn cael eu neilltuo ar gyfer prosiectau o fewn ffin y Cyd-fenter.
Partneriaeth rhwng y Cyngor Sir a'r Cynulliad yw'r cyd-fenter er mwyn helpu i hyrwyddo adfywio Morlan Llanelli sy'n ymestyn at Borth Tywyn.
Meddai'r Cyng. Clive Scourfield, sef yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden: “Mae'r datblygiad hwn wedi cael ei addo ers blynyddoedd lawer. Mae'n dda gweld cynnydd a fydd yn helpu i gyfoethogi cymuned Porth Tywyn. ”
Mae Pat Jones a Stephen James, cynghorwyr sir y dref, wedi cefnogi'r cynlluniau ac maent wrth eu boddau â'r newyddion hyn a argymhellwyd gan fwrdd gweithredol y cyngor wythnos diwethaf.
Meddai'r Cyng. Jones: “Bydd hyn yn dod â llawer o fanteision pellgyrhaeddol i'r gymuned ac mae'n gyffrous meddwl y bydd y datblygiad hwn yn helpu i wireddu prosiectau cymunedol eraill o fewn y dref."
Meddai'r Cyng. James: “Rydym wedi aros yn hir am hyn ac mae Porth Tywyn yn haeddu cael datblygiad a fydd yn gwasanaethu'r gymuned gan roi gwell cyfleoedd siopa ac ugeiniau o swyddi a fydd yn cael croeso mawr.”
Mae'r tir wedi bod yn safle i ffeiriau teithiol a ddeuai i Borth Tywyn ac yn bennaf i ffair Casey a arferai ymweld â'r safle yn ystod yr 1820au. Yr unig adeilad a fu ar y tir hwn ar gyrion yr hen Marcroft Wagon Works oedd yr hen Great Western Railways Institute a arferai gael ei ddefnyddio i gynnal digwyddiadau ar gyfer gweithwyr rheilffordd a hefyd bu'n neuadd sgowtiaid.