TORRI AR GOSTAU GWELY A BRECWAST
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
TORRI AR GOSTAU GWELY A BRECWAST 
26/10/2010 

Gwelwyd gostyngiad aruthrol o 98% yng nghostau llety gwely a brecwast ar gyfer pobl ddigartref yn Sir Gaerfyrddin.
Mae ymgyrch mawr ar waith i sicrhau nad oes rhaid i bobl sydd ag angen llety mewn argyfwng aros mewn llety gwely a brecwast.
Yn lle hynny, mae swyddogion tai yn cael hyd i dai da ar rent ar eu cyfer yn y sir.
Cyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi sbarduno'r newid hwn yn rhan o'i ymgyrch i wella safonau tai.
Mae'r ffigurau'n dangos bod y Cyngor wedi gwario £2,297 yn unig ar ddarparu llety gwely a brecwast eleni.
Mae hwn yn ostyngiad o 98.9% ar ffigurau 2005-06 pryd oedd y costau'n £397,059 ar gyfer 187 o deuluoedd. Roedd gan 84 o'r teuluoedd hyn blant.
Eleni, pedwar teulu yn unig gafodd eu rhoi mewn llety gwely a brecwast ac nid oedd gan yr un o'r rhain blant.
Dywedodd Robin Staines, Pennaeth y Gwasanaethau Tai: "Rydym ni wedi gwneud llawer iawn o waith i leihau'r defnydd o lety gwely a brecwast ar gyfer pobl ddigartref, yn enwedig y rheiny sydd â phlant.
"Rydym ni wedi gweithio gyda landlordiaid preifat a'r Cymdeithasau Tai i ddarparu llety hunangynhwysol dros dro sydd o safon uchel iawn.
"Mae tai ar rent yn y sector preifat yn bwysig iawn o ran diwallu anghenion lleol ac rydym ni eisiau sicrhau bod tai sy'n cael eu gosod i deuluoedd yn rhai o safon uchel.
"Rydym ni wedi cymryd camau mawr ymlaen o ran gwella safonau a byddwn yn parhau i weithio gyda landlordiaid i wella'r gwasanaeth ar gyfer cleientiaid."
Datgelwyd y ffigurau yn sgil rhoi rhaglen bwysig ar waith i wella safonau mewn eiddo ar rent yn y sector preifat yn Sir Gaerfyrddin. 
Dymuniad y swyddogion yw sicrhau bod eiddo o'r radd flaenaf ar gael, ar rent, i denantiaid yn y sir.
Maent yn gweithio gyda'r landlordiaid i godi safonau ac atal peryglon posibl gan roi sylw i ddiogelwch rhag tân, atal lleithder a mowld, oerfel a phroblemau trydan.
Defnyddir System Graddio Iechyd a Diogelwch Tai i glustnodi problemau mewn eiddo ar rent yn y sector preifat.
Hefyd, sefydlwyd Cynllun Achredu Llety Sir Gaerfyrddin er mwyn clustnodi landlordiaid, asiantaethau ac eiddo da.
Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd o'r fforwm landlordiaid ac anogir landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i wneud cais i ymuno â'r cynllun.
Bydd eiddo'n cael ei asesu a'i gynnwys yn y gronfa ddata o eiddo a gymeradwyir os yw'n bodloni'r safonau cyfreithiol gofynnol.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans, sef yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros Dai: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu tai ar rent o'r radd flaenaf i denantiaid yn y sector preifat.
"Rwy'n falch fod cymaint o waith blaenweithgar yn cael ei wneud i wella'r ddarpariaeth ac i leihau'r angen am lety gwely a brecwast.
"Rwy'n cymeradwyo gwaith yr holl swyddogion sydd wedi cyfrannu at yr arbedion hyn."