Swyn y Dewin Myrddin yn hudo tref Caerfyrddin
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 19/8/2011
Swyn y Dewin Myrddin yn hudo tref Caerfyrddin 

Cafodd Caerfyrddin ei gweddnewid yn hafan ganoloesol hudolus, lle'r oedd cerddoriaeth fyw, storïwyr a diddanwyr ar droed, dros benwythnos Gŵyl Myrddin.
Wfft i Harry Potter, mae gan Myrddin, dewin dawnus Cymru, ei ŵyl ei hun yn ei dref ei hun, sef Caerfyrddin.
Rhoddodd teuluoedd o bell ac agos eu hetiau pigfain am eu pennau i ymuno ag academi'r dewiniaid a cherdded yn hamddenol ymysg y dreigiau a oedd yn dawnsio yn y strydoedd a oedd yn llawn jyglwyr, ymwanwyr a jacoeswyr.
Ar y rhaglen hefyd roedd gweithdai celf a chrefft, paentio wynebau yn rhad ac am ddim, academi'r dewiniaid ac roedd Epico y Ddraig yn crwydro’r strydoedd.
Cyngor Sir Caerfyrddin oedd yn trefnu'r digwyddiad gyda chymorth masnachwyr Rhodfa'r Santes Catrin, Maes Myrddin a Heol y Brenin.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden: “Mae Gŵyl Myrddin yn llawer o hwyl ac yn ffordd wych o ddathlu hanes a chwedloniaeth Caerfyrddin.
“Roedd yr ŵyl eleni'n well nag erioed, mwy o ddigwyddiadau lliwgar a mwy o ymwneud â'r ymwelwyr a'r masnachwyr.”
Dywedodd Huw Parsons, Rheolwr Twristiaeth y Sir: “Mae'r ŵyl hon wir wedi dal dychymyg y bobl ac mae hi wedi ennill ei phlwyf.
“Mae hud a lledrith Myrddin yn dal i swyno, gyda’r ŵyl yn cael cryn gyhoeddusrwydd ymlaen llaw mewn cylchgronau i ferched ac yn y papurau newyddion cenedlaethol, mwy na thebyg oherwydd llwyddiant  Harry Potter.
“Does dim rheswm pam na ddylem ni wneud yn fawr o'r diddordeb hwn mewn hud a lledrith a chyfrin bethau, sy'n rhan annatod o hanes Caerfyrddin.
“Roedd yn wych eleni i weld y masnachwyr yn ymuno yn yr ŵyl gan ei gwneud yn ŵyl fwy llwyddiannus fyth.
“Daeth teuluoedd o Abertawe hyd yn oed i fwynhau'r ŵyl a'r cyfleoedd siopa. ”