English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 29/11/2011
Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd 

Mae preswylwyr y sir yn cael rhybudd i ddisgwyl tarfu ar amrywiaeth o wasanaethau sector cyhoeddus o ganlyniad i'r gweithredu diwydiannol ddydd Mercher, 30 Tachwedd.

Er y bydd gwasanaethau cwbl hanfodol y Cyngor yn cael eu darparu, gan gynnwys gofal yn y cartref a gofal preswyl, rhagwelir y gall y gweithredu effeithio ar nifer o wasanaethau eraill.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ar ddeall y bydd llawer o'r ysgolion ynghau, yn ogystal â holl swyddfeydd y cyngor, yr holl, yr holl ganolfannau cymunedol ac adeiladau eraill y Cyngor.

Bydd y llyfrgelloedd canlynol ar agor fel arfer: Llandovery, Llandeilo, Brynaman, Pontyberem, Trimsaran, Llangennech, Newcastle Emlyn, Ysgol y  Bedol library, Kidwelly and Cross Hands.

Yn ogystal bydd tarfu ar y ddarpariaeth mewn mannau hamdden, ac eithrio Harbwr Porth Tywyn a Pharc Arfordirol y Mileniwm. Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i gysylltu â llefydd lleol cyn cychwyn ar unrhyw deithiau arbennig.

Ni fydd sbwriel na deunyddiau ailgylchu'n cael eu casglu ddydd Mercher. Gofynnir i'r preswylwyr y byddai eu sbwriel a'u deunyddiau ailgylchu yn cael eu casglu ar ddydd Mercher fel rheol i beidio â'u rhoi allan tan ddyddiad eu casgliad nesaf. Yn y cyfamser, gallant hefyd ddefnyddio eu Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref leol, a fydd ar agor fel arfer.

Mae trafodaethau cadarnhaol â chynrychiolwyr yr undebau llafur lleol wedi sicrhau y bydd y gwasanaethau hanfodol ar gyfer preswylwyr mwyaf bregus y sir yn cael eu diogelu.

Felly, bydd cartrefi gofal preswyl yn dal i weithredu a bydd gwasanaeth gofal cymunedol a gwasanaeth prydau cymunedol yn cael eu darparu ar gyfer y bobl y mae mwyaf eu hangen arnynt.
Cytunwyd ar drefniadau 'aros galwad' hefyd i sicrhau bod y Cyngor yn gallu ymateb i unrhyw argyfyngau a allai godi.

Mae gweithredu diwydiannol dydd Mercher yn cael ei gynnal o ganlyniad i'r newidiadau arfaethedig i gynlluniau pensiwn sector cyhoeddus, gan gynnwys y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a'r Cynllun Pensiwn Athrawon.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn cynnal trafodaethau â'r undebau llafur yn genedlaethol ar y newidiadau arfaethedig, a hyd yn hyn, nid yw'r pryderon wedi'u datrys.