Stampiau
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 26/9/2011
Stampiau 

Mae perchennog bar yn Llanelli wedi cael dirwy o £2,000 am fethu â chydymffurfio ag hysbysiad gorfodi i gywiro gwaith anawdurdodedig yn yr adeilad rhestredig.
Plediodd Douglas Andrew Lewis yn euog yn Llys Ynadon Llanelli i'r drosedd o dan Adran 43 Deddf Cynllunio 1990 (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth).  Dygwyd yr achos gan Gyngor Sir Caerfyrddin.  
Dywedwyd wrth y llys bod Lewis wedi pledio'n euog ar 3 Chwefror 2010 i wneud gwaith anawdurdodedig ar adeilad rhestredig Gradd II, sef Stamps, y Swyddfa Bost gynt, Heol yr Orsaf, Llanelli a chafodd dirwy o £3,600 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £2,000.
Roedd y gwaith yn cynnwys adeiladu estyniad yn y cefn, adeiladu grisiau dur galfanedig allanol, codi canopi newydd yn yr iard gefn, gosod ffenestri adeiniog UPVC yn lle'r ffenestri codi pren sy'n llithro, torri rhan isaf y gatiau panel dwbl, gosod llawr estyll pren a gosod nifer o oleuadau, arwyddion ac erialau ar ochr allanol yr adeilad.
Ar 4 Mai 2010, cyflwynodd y Cyngor hysbysiad gorfodi i Lewis o dan Adran 38, Deddf Cynllunio 1990 (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth). Roedd yr hysbysiad gorfodi yn nodi bod angen iddo wneud gwaith a fyddai'n cywiro'r gwaith anawdurdodedig ac adfer yr adeilad i'w gyflwr blaenorol. Cafodd chwe mis, hyd 4 Rhagfyr, 2010 i gydymffurfio â'r hysbysiad gorfodi ond methodd â gwneud hynny.
Cafodd Lewis o Lewitha Villa, Heol Abertawe, Fforestfach ddirwy o £2,000 a gorchmynnwyd iddo dalu £269.88.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden: "Er bod y Cyngor Sir yn ystyried erlyniadau fel cam olaf, dylai'r achos hwn fod yn rhybudd i unrhyw un sydd yn ymwneud ag adeiladau rhestredig i ufuddhau i hysbysiad gorfodi o ran cywiro gwaith anawdurdodedig. Bellach, bydd yn rhaid i'r perchennog gywiro'r gwaith anawdurdodedig ar ei draul ei hun."
Dywedodd Eifion Bowen, y Pennaeth Cynllunio fod ei Adain Gadwraeth ar gael i gynghori perchnogion ynghylch adeiladau rhestredig neu unrhyw newidiadau arfaethedig maent yn dymuno eu gwneud a chynnig canllawiau o ran a fyddai'r newidiadau yn addas a pha ganiatâd fyddai ei angen cyn gwneud y newidiadau.