Bu Tomas Marks a Glyn Jones o’r prosiect Mentro yn cynnal digwyddiad ‘Rhwydweithio Cyflym’ ar gyfer entrepreneuriaid ifanc yng Nghlwb y Quins Caerfyrddin ddydd Llun 20 Chwefror.
Mae Mentro yn cael ei redeg gan Fenter Bro Dinefwr ac mae’n rhan o brosiect Entrepreneuriaeth Wledig RDP Sir Gâr*, sy’n rhoi cymorth busnes rhad ac am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed. Trefnwyd y digwyddiad yn gyfle ar gyfer rhwydweithio ac yn gyfle i bobl fusnes y dyfodol gael cyngor gan fusnesau sefydledig.
Rhoddwyd tri munud yr un i’r entrepreneuriaid ifanc i sgwrsio gyda phob un o’r amrywiol fentoriaid busnes profiadol o gwmnïau megis; Castell Howell, Cegin Fach y Wlad, Ungoed Thomas & King, Vintage Tea Party, Dillad Dynion Dyfed, Meithrinfa Cae'r Ffair, Telesgop, Spindogs, Cyfrifwyr LH Phillips and Co a Grŵp Yswiriant Antur.
“Roedd yn ddefnyddiol iawn cael y cyfle i daflu syniadau at bawb a chael adborth,” meddai Michael Dougall, un o’r entrepreneuriaid ifanc a fu’n bresennol. Mae Michael yn y broses o sefydlu Celtic Laser a bu’n gweithio gyda Tomas a Glyn i ddatblygu ei fusnes.
Dywedodd Carlington Mazhawizha o Carl Maz Productions bod y rhwydweithio cyflym yn “ddigwyddiad gwych ac yn llawn ysbrydoliaeth.”
Roedd y mentoriaid eu hunain hefyd wedi cael argraff dda. Dywedodd Mike Donovan o Practical Farm Ideas ei fod “yn ddigwyddiad rhagorol. Roedd yr entrepreneuriaid ifanc yn awyddus ac yn barod i wrando ac roedd y sefyllfa yn un llawer gwell na’r arddull ddarlithio arferol a nifer o gyflwyniadau PowerPoint.”
Dywedodd Lynette Thomas, Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid Menter Bro Dinefwr, “Roedd y noson yn llawer mwy llwyddiannus na’r hyn yr oeddem wedi’i ragweld - roedd yr ystafell gyfan yn llawn cynnwrf ac roedd pawb a oedd yn bresennol o’r farn eu bod wedi elwa cryn dipyn o’r profiad. Roedd hefyd yn ysbrydoliaeth i weld cymaint o frwdfrydedd yn cael ei rannu gan yr entrepreneuriaid ifanc a’u mentoriaid. Mae’n wych i weld prosiect mor newydd a chyffrous yn creu effaith mor bositif yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin.”
Am ragor o wybodaeth ynghylch Mentro a digwyddiadau pellach, cysylltwch â Tomas Marks ym Menter Bro Dinefwr ar (01558) 825336 neu e-bost tomasmarks@menterbrodinefwr.org
