Tudalen wedi ei diweddaru ar 09/9/2011
Sir Gaerfyrddin yn paratoi ar gyfer codi tâl am fagiau siopa
Mae siopwyr yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hatgoffa ynghylch cyflwyno codi tâl am fagiau siopa.
O'r 1 Hydref 2011, codir isafswm o 5c yng Nghymru am bob bag siopa untro.
Mae'r siopwr nodweddiadol yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio hyd at 720 o fagiau plastig bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru eisiau lleihau'n sylweddol nifer y bagiau untro sy'n cael eu defnyddio gennym. Am y rheswm hwnnw, o fis Hydref ymlaen, codir tâl am fag lle bynnag byddwch chi'n siopa.
Serch hynny, does dim rhaid ichi dalu ceiniog. Drwy gofio mynd â'ch bag siopa gyda chi bob tro rydych chi'n siopa, byddwch chi'n osgoi'r tâl ac yn arbed adnodd gwerthfawr.
Gall pob bag plastig gymryd hyd at 1,000 o flynyddoedd i bydru ac mae'n bosibl na fyddant byth yn pydru mewn safle tirlenwi. Dydy bagiau papur ddim yn ddewis sy'n gydnaws â'r amgylchedd; maent yn dal i fod yn wastraff adnoddau naturiol.
Mae hyd yn oed bagiau startsh sy'n pydru a bagiau y gellir eu compostio'n gyfan gwbl yn defnyddio adnoddau naturiol. Os yw'r bagiau hyn ond yn cael eu defnyddio unwaith ac nad ydynt yn cael eu compostio, mae'n fwy o wastraff adnoddau na bagiau siopa plastig confensiynol.
Dywedodd y Cynghorydd Pam Palmer, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor dros Gynaliadwyedd: "Mae ffigurau'n dangos bod mwy nag 8 o bob 10 bag siopa yn cael eu gwaredu mewn safleoedd tirlenwi; ac mae llawer mwy yn cael eu taflu. Yn syml, ni allwn barhau i wastraffu ein hadnoddau gwerthfawr yn y modd hwn.
"Bydd codi tâl am fagiau siopa yn helpu i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn ogystal â lleihau sbwriel a diogelu bywyd gwyllt ac adnoddau naturiol.
"Anogir trigolion yn Sir Gaerfyrddin i gofio mynd â'u bagiau siopa y gellir eu hailddefnyddio gyda nhw pryd bynnag a lle bynnag byddant yn siopa er mwyn iddynt osgoi'r tâl ac ar yr un pryd helpu i warchod ein hamgylchedd hardd."
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch cyflwyno tâl isafswm o 5c ar gyfer bagiau siopa untro, ewch i www.carrierbagchargewales.gov.uk