English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Gwobrau Arian ac Efydd Cynllun Dug Caeredin 

 

Mae'r cynllun Gwobrau Dug Caeredin yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn boblogaidd erioed ac mae'n dal i fynd o nerth i nerth.

 

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin ar 7fed Chwefror 2012. Gwahoddwyd pobl ifanc a'u rhieni o bob cwr o Sir Gaerfyrddin i'r noson fawreddog pryd y byddai'r rhai a lwyddodd i ennill gwobrau dan gynllun Dug Caeredin yn derbyn eu gwobrau.

 

Roedd y seremoni i gyflwyno’r gwobrau arian ac efydd eleni yn arbennig o brysur a daeth nifer dda iddi, oddeutu 579 o bobl ifanc: roedd 447 yn derbyn gwobrau efydd, 86 yn derbyn gwobrau arian a 46 yn derbyn gwobrau aur.

 

Cafodd y rhai a oedd yno gyfle i glywed anerchiad y siaradwraig wadd, Tori James, dynes leol o Sir Benfro a oedd y ddynes gyntaf o Gymru i ddringo Mynydd Everest. Enillodd Tori ei gwobr  Dug Caeredin hi cyn cychwyn ar ei gyrfa, a aeth â hi o alldeithiau â'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol i rasys tîm i Begwn Magnetig y Gogledd lle'r oedd yn -40oC.

 

Meddai Stephanie Price, Cyfarwyddwraig Cynllun Dug Caeredin yng Nghymru: “Gall yr holl bobl ifanc hyn ddathlu ac ymfalchïo yn yr hyn y maen nhw wedi'i gyflawni. Mae gan bob un ohonyn nhw'r potensial i gyflawni'n neilltuol.”

 

Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 20/2/2012