Bu criw o weithwyr o’r Adran Addysg yng Nghyngor Sir Gâr ynghyd â ffrindiau yn ddigon mentrus i gymryd rhan yn nhaith beicio Merlin.
Roedd rhai yn amaturiaid llwyr ond ar ôl ymarfer dros y misoedd diwethaf gwnaethant gwblhau amryw o’r teithiau penodol i fyny at 57 milltir yr un yn cynnwys y sialens o ddringo’r Mynydd Du.
Roedd trefniadaeth y diwrnod yn arbennig a byddent yn annog unrhyw un i gymryd rhan.
Yn bwysicaf casglwyd £2,776.36 tuag at y Lily Foundation, Ymchwil Cancr, Uned Cancr y Fron yn Ysbyty Tywysog Philip a BEAT Cymru.
Hoffent ddiolch i bawb a gefnogodd a noddi hwy yn arbennig busnesau lleol yn ardal Llanddarog sef Cwmni Cludiant Owen Evans, Tafarn y Butchers, Rheweiddiad Jenkins a Farmer John.