Hoelio sylw ar bum prosiect disglair
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 27/10/2011
Hoelio sylw ar bum prosiect disglair 

Gan ei bod mor anodd i bobl amgyffred graddfa'r buddsoddiad anferth o £60 miliwn er mwyn trawsnewid canol tref Llanelli, mae canolfan Sioe Arddangos wedi ei chreu.
Bydd y ganolfan yn agor ar Dachwedd 18fed yn adeilad helaeth hen siop Burton yn Sgwâr Stepney, y drws nesaf i Boots a gyferbyn â Banc Lloyds. Bydd yno oriel fawr lle rhoddir sylw manwl i bob un o bum elfen adfywio canol tref Llanelli.
Bydd y ffotograffau, y mapiau a'r cyflwyniad 'power-point' yn rhoi amcan i bobl o'r hyn fydd ar gael o Hydref 2012 ymlaen.
Yr uchafbwynt yw Porth y Dwyrain lle buddsoddir £25 miliwn i gael gwared â threfwedd adfeiliedig gan greu porth ysblennydd newydd ac ardal hamdden ffyniannus i'r teulu cyfan o amgylch sgwâr newydd.
Hefyd mae'r cynllun £3.8 miliwn i ailwampio Llyfrgell Llanelli, ger Plas Llanelly, yn helpu i agor pennod newydd o ran llewyrch y dref. Mae'r adeilad gwych hwn, y mae rhannau ohono'n dyddio o'r cyfnod Iagoaidd, yn cael ei adnewyddu mewn modd tringar. Y gobaith yw y bydd 30,000 o ymwelwyr y flwyddyn yn heidio i'r ganolfan dreftadaeth yn y llyfrgell, ac mae cynlluniau uchelgeisiol ar waith i greu canolfan achyddiaeth yno.
Elfen arall yw Y Ffwrnes, sef theatr a chanolfan gelfyddydau bwrpasol a fydd yn gartref i fentrau cymdeithasol a diwylliannol ac i'r celfyddydau perfformiadol.
Mae'r holl ddatblygiadau hyn yn cael eu cyfannu gan ADREF sy'n gwella'r cyfleusterau i'r cyhoedd yn y dref ac o'i hamgylch, gan gynnwys gosod canopïau goleuedig a chelfi stryd newydd.