Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod mater yr arwyddion yng nghyffiniau'r amlosgfa yn cael ei drafod unwaith eto, er mwyn ystyried awgrymiadau y gellid defnyddio ieithoedd ychwanegol i rybuddio gyrwyr o dramor nad oedd y ffordd yn addas i gerbydau mawr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod ei swyddogion wedi bod yn cynnal trafodaethau â'r Adran Drafnidiaeth a'r Asiantaeth Priffyrdd yn Lloegr gyda golwg ar geisio datrys y problemau hyn.
Mae arwydd arbennig, sydd yn cynghori modurwyr i beidio â dilyn llwybr penodedig, wedi bod ar brawf yn Sir Gaerfyrddin am ryw 12 mis gyda chaniatâd Llywodraeth Cymru. Mae'r arwydd arbrofol yn dangos lloeren, sydd â llinell goch ar ei thraws, yn wynebu tuag at i lawr.
Yn ôl John McEvoy, Rheolwr Trafnidiaeth a Gwasanaethau Parcio y Sir: “Gyda chaniatâd Llywodraeth Cymru bu inni godi'r arwyddion hyn mewn amryw o fannau gan gynnwys yr U2187 yn Nant-y-caws; Heol Henfwlch, Caerfyrddin; Heol Maeslan, Llangynnwr; yr U4110 yng Nghwm-ann ger Llanbedr Pont Steffan; Heol y Brenin, Caerfyrddin; Heol Penprys ger amlosgfa Llanelli; ac yng nghyffiniau Mwyngloddiau Aur Dolau Cothi.”
Dywedodd Philip Hughes, sef yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Trafnidiaeth: “Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio'r arwydd arbrofol ac wedi penderfynu ar arwydd diwygiedig sy'n rhybuddio gyrwyr cerbydau mawr rhag defnyddio llwybr penodedig. Nid yw'r arwydd newydd yn dangos symbol o 'loeren'. Ond rydym wedi gosod y ddau arwydd yng nghyffiniau Penprys, ac mae gyrwyr yn dal i'w hanwybyddu."