Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/11/2011
Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 

Cynhelir ymgyrch yn Sir Gaerfyrddin y mis hwn i gynyddu ymwybyddiaeth pobl o faterion diogelwch ar y ffyrdd.
Mae hyn yn cyd-ddigwydd â'r Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd a gynhelir rhwng Tachwedd 21- 27 i ddangos yr hyn y gallwn ei wneud er mwyn helpu i wneud y ffyrdd yn fwy diogel ac er mwyn ceisio atal dioddefaint dieisiau.
Bydd Grŵp Gweithredu Diogelwch Ffyrdd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar hyd lle yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl ynghylch gyrru'n rhy gyflym, gyrru mewn modd esgeulus, defnyddio ffôn symudol wrth yrru, gyrru ar ôl yfed alcohol / cymryd cyffuriau, gyrru pan fyddant yn flinedig, neu fethu gwisgo gwregys diogelwch.
Hefyd bydd 'car wedi bod mewn damwain' yn cael ei arddangos er mwyn pwysleisio negeseuon diflewyn ar dafod ynghylch canlyniadau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd.
Cynhelir digwyddiadau rhwng 10am a 3pm fel a ganlyn: dydd Mawrth, Tachwedd 22 yng nghanol tref Llanelli (y tu allan i Boots); dydd Mercher, Tachwedd 23 yn y Clos Mawr, Caerfyrddin; a dydd Iau, Tachwedd 24 yn Stryd y Cei, Rhydaman.
Dewch draw ac fe gewch docyn yn rhad ac am ddim ar gyfer raffl fawr a chyfle i ennill llywiwr lloeren.
Mae'r grŵp gweithredu'n cynnwys cynrychiolwyr tîm diogelwch ar y ffyrdd y Cyngor, yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, a Phartneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru.
Meddai’r Cyng. Pam Palmer, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelwch Cymunedol:  “Ein gobaith yw y gallwn gymell pobl i yrru mewn modd mwy cyfrifol i leihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ein ffyrdd.
"Mae diogelwch ar y ffyrdd a phroblemau sy’n gysylltiedig â gyrru'n rhy gyflym yn benodol yn achosi pryder mawr mewn cymunedau ac mae'n un o brif flaenoriaethau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.  Mae gwaith mawr yn cael ei wneud yn y maes ond mae llawer gormod o wrthdrawiadau yn dal i ddigwydd, ac mae gwaith mawr i'w wneud o hyd.
"Byddwn yn lansio ymgyrch newydd i ddelio â materion gyrru'n rhy gyflym, gan weithio gyda chymunedau lleol i ddysgu modurwyr am beryglon gyrru'n rhy gyflym a'u hannog i yrru'n unol â'r terfyn cyflymder."