Bydd sioe lewyrchol o lanterni yn goleuo Rhydaman ar ddechrau dathliadau'r Nadolig yn y dref.
Mae'r plant lleol yn cael eu hannog i ymuno yn y gweithdai gwneud lanterni cyn y Carnifal Nadolig yn y dref ddydd Gwener, 3 Rhagfyr.
Bydd y lanterni'n cael eu rhyddhau i’r nos cyn gorymdaith y carnifal gan fod yn gefndir hudolus i weithgareddau'r noson, a fydd yn cynnwys gorymdaith ar droed a sioe tân gwyllt fawreddog.
Hefyd, bydd Siôn Corn yn cael ei gludo i'r dref ar ei sled cyn iddo agor ei Groto yn Neuadd y Pensiynwyr.
Bydd Radio Sir Gâr a Band Tref Rhydaman yn darparu llu o adloniant cerddorol ar y noson a bydd ffair a diddanwyr stryd, gan gynnwys modelu balŵns a sioe hud a lledrith a jacoeswr D'ewythr Sam, yn darparu llond lle o hwyl a gêmau i'r teulu cyfan.
Trefnir y digwyddiad gan bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Tref Rhydaman, a noddir y noson eleni gan Taylor Wimpey, y cwmni adeiladu tai cenedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Ray Spencer, Dirprwy Faer Tref Rhydaman: “Mae’n bleser mawr gan Gyngor Tref Rhydaman weithio mewn partneriaeth â'r Cyngor Sir a Taylor Wimpey i drefnu'r digwyddiad hwn, y gobeithiwn fydd yn achlysur y bydd teuluoedd lleol yn ei fwynhau.
“Gwyddom fod Siôn Corn yn edrych ymlaen at gwrdd â'r plant yn ei groto yn Neuadd y Pensiynwyr. Mae hyn bob amser yn rhan hyfryd o ddathliadau'r Nadolig yn Rhydaman.”
Dywedodd Sara Taylor, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata cwmni Taylor Wimpey (De Cymru): "Mae cynnau'r goleuadau Nadolig yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn yn Rhydaman ac rydym ni, sy'n rhan o'r gymuned leol, wrth ein boddau yn cefnogi'r digwyddiad hwn.
“Mae ein nawdd wedi cyfrannu at gynnig i'n hymwelwyr ddewis o weithgareddau Nadoligaidd sy'n hwyl ac sydd wedi'u cynllunio i wneud Carnifal Nadolig eleni hyd yn oed yn fwy ac yn well nag un y llynedd. Edrychwn ymlaen at gael y dref gyfan i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn a chael y trigolion i ddod ynghyd i ddathlu'r ŵyl mewn steil!"
Cynhelir y gweithdai lanterni yn Neuadd y Pensiynwyr, Rhydaman, ddydd Sadwrn, 20 Tachwedd, a bydd nifer o sesiynau a fydd yn addas i bob oedran yn cael eu cynnal rhwng 10am a 3pm. 'The Lion, The Witch and the Wardrobe' fydd thema eleni.
Bydd Cyngor Tref Rhydaman yn rhoi gwobrau am y lanterni mwyaf trawiadol. Mae £15 o wobr gyntaf, £10 yw'r ail wobr a £5 yw'r drydedd wobr.
Byddwn yn gofyn i'r plant ddod i'r carnifal a gynhelir ar 3 Rhagfyr pryd y bydd y sioe o lanterni yn arwain gorymdaith y carnifal.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Hamdden ac Adfywio: “Mae hon yn ffordd wych o ddechrau noson lawn o ddathlu a fydd yn cychwyn dathliadau'r Nadolig yn Rhydaman.
“Rwy'n gobeithio y bydd y plant yn cymryd rhan yn y gweithdai ac yn creu gwaith gwych ar gyfer noson y carnifal.
“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Chyngor Tref Rhydaman i drefnu'r digwyddiad hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn i gwmni Taylor Wimpey Homes am noddi'r achlysur.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithdai lanterni, neu i gofrestru ar gyfer sesiwn, ffoniwch Emma Stuart (07854 980 071).
Trefn y digwyddiadau
5pm: Radio Sir Gâr yn agor y digwyddiad â cherddoriaeth o'i brif lwyfan yn Stryd Isaf y Cei. Y ffair yn dechrau â stondinau arlwyo a diddanwyr stryd wrth law i ysgogi ysbryd yr ŵyl ymysg y bobl.
7pm: Y plant yn ymgynnull gyda'u lanterni ym maes parcio siop y Co-op.
7.10pm: Y lanterni'n cael eu rhyddhau cyn i'r gorymdeithwyr, a fydd yn cynnwys grwpiau cymunedol, adael maes parcio'r Co-op a cherdded ar hyd Stryd Marged a Stryd y Cei.
7.20pm: Gorymdaith y carnifal yn cyrraedd Stryd Isaf y Cei. Y Cynghorydd Ray Spencer (Dirprwy Faer Tref Rhydaman), Siôn Corn, Brenhines y Carnifal a'i chynorthwy-ydd yn camu ar lwyfan Radio Sir Gâr.
7.25pm: Croeso a chyfri'n ôl i’r eiliad pan gaiff y goleuadau Nadolig eu cynnau gan y Cynghorydd Ray Spencer a fydd ar y prif lwyfan
7.30pm: Y Dirprwy Faer a'r Cynghorydd Tyssul Evans, Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, yn cynnau'r goleuadau gan ddechrau'r sioe tân gwyllt ysblennydd.
7.40pm: Agor y drysau i groto Siôn Corn yn Neuadd y Pensiynwyr, Rhydaman