Mae cynllun enfawr gwerth £21 miliwn sydd ar waith yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman yn cael ei gyflawni, yn rhyfedd iawn, tra bo'r 1,600 o ddisgyblion yn parhau i fod wrth eu desgiau.
Yn ystod y naw mis diwethaf rhoddwyd cam cyntaf y cynllun ar waith i wella'r cyfleusterau presennol a chreu ystafelloedd ychwanegol i ddiwallu'r anghenion o ran darparu addysg uwchradd yn ne Dinefwr.
Erbyn Medi 2012 bwriedir y bydd cam cyntaf y gwaith yn yr ysgol wedi darparu adeilad newydd ar gyfer staff gweinyddu a'r chweched dosbarth; adeilad newydd ar gyfer 24 o ddisgyblion ag anghenion addysgol arbennig; adeilad gwyddoniaeth wedi'i ailwampio a'i helaethu; llwybrau dan do yn cysylltu'r holl adeiladau, gwaith helaeth i'r seilwaith TG, cyfrifiaduron a byrddau gwyn newydd.
Bydd y cynllun gweddnewid yn darparu cyfleusterau dysgu gwell, ynghyd â maes parcio estynedig â lle ar gyfer 30 o geir ychwanegol a gwelliannau sylweddol i'r amgylchedd allanol, llwybrau a mannau ymgynnull.
Mae rhan gyntaf y prosiect a gyflawnir gan y contractwr lleol Richard Jones (Betws) Ltd, a benodwyd dan drefniadau fframwaith contractwyr yr Awdurdod, yn datblygu yn unol â'r rhaglen.
Hefyd, gwaed gwelliannau i'r cyfleusterau yn y Ganolfan Hamdden sydd wrth ymyl yr ysgol ac sy'n rhan annatod o fywyd yr ysgol a'r gymuned leol.
Yn ogsytal â'r gwelliannau sylweddol i'r adeiladau presennol, bydd buddsoddiad helaeth wedi'i wneud mewn paneli ffotofoltäig, offer gwres a phŵer cyfun a boeleri sy'n defnyddio ynni yn effeithlon, dulliau crynhoi dŵr glaw a thechnoleg gynaliadwy arall.
Bydd y rhain yn gwella amgylchedd mewnol yr ysgol i'r disgyblion a'r staff a hefyd yn gwella perfformiad ynni yr adeiladau ond bydd hefyd yn fodd i'r ysgol ddefnyddio'r elfennau hyn wrth ddysgu'r disgyblion am ddatblygiadau a thechnoleg gynaliadwy.
Bydd camau nesaf y gwaith yn yr ysgol yn gwella'r ystafelloedd a'r cyfleusterau yn yr adeiladau eraill ynghyd â datblygiadau pellach ar y caeau chwarae y tu ôl i'r ysgol er mwyn darparu gwell cyfleusterau chwaraeon yn yr ysgol hon sy'n adnabyddus am fod yn feithrinfa heb ei hail ar gyfer chwaraewyr rygbi a chricedwyr.
Dywedodd Steve Perks, Pennaeth yr ysgol fod hwn yn gyfnod cyffrous. Cyfaddefodd fod y cymhlethdodau ymarferol sydd ynghlwm wrth geisio parhau i weithredu gyda 1,600 o ddisgyblion ar y safle yn ystod y gwaith adeiladu wedi bod yn dipyn o her ond fod y gwaith wedi cynnig buddion mawr hefyd.
"Mae'r myfyrwyr yn gweld dyfodol yr ysgol yn datblygu o flaen eu llygaid ac mae llawer ohonynt wedi cael gwaith rhan-amser gyda'r contractwyr dros wyliau'r haf felly rydyn ni, o bosibl, yn cyflwyno'r disgyblion i yrfaoedd yn y diwydiant adeiladu trwy fabwysiadu ethos holl-gynhwysol tuag at y gwaith."
Er bod cyflawni'r prosiect hwn wedi tarfu'n sylweddol ar yr ysgol, y staff a'r disgyblion, mae trafodaethau helaeth, cynlluniau a chydweithio eithriadol rhwng yr ysgol, y contractwyr a'r timau dylunio wedi sicrhau bod modd i'r ysgol barhau i weithredu drwy gydol y gwaith.
Bydd y gwaith moderneiddio a gyflawnir yn Ysgol Dyffryn Aman dros y tair blynedd nesaf yn rhan o gynllun i fuddsoddi £151 miliwn mewn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin. Sicrhawyd bron £87 miliwn drwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a bydd y Cyngor Sir yn rhoi'r un swm. Bydd y rhaglen yn dechrau yn 2013 ac mae'n golygu y gall Sir Gaerfyrddin gyllido ei Rhaglen Moderneiddio Addysg yn llawn hyd at 2020.
Bydd ysgolion newydd eraill yn cael eu hadeiladu a gwaith ailwampio'n cael ei wneud mewn nifer o leoliadau yn y sir gan gynnwys Carreg Hirfaen, Seaside, Porth Tywyn, Dyffryn Cothi, Trimsaran a Llandeilo. Yn ogystal, bydd gwelliannau'n digwydd mewn nifer o ysgolion uwchradd.
Roedd Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor Sir yn un o'r gwesteion a oedd wedi cyfarfod ag aelodau o'r tîm prosiect a'r contractwyr a chael eu tywys o amgylch Ysgol Dyffryn Aman. Dywedodd: "Bydd cwblhau'r prosiect hwn yn fodd i ni sicrhau bod gan yr ysgol hon gyfleusterau a thechnoleg i ddarparu addysg uwchradd o safon uchel iawn yn yr 21ain Ganrif.
"Mae creu amgylchedd gwell ar gyfer plant yn arwain at berfformiad gwell. Mae pob plentyn yn Sir Gaerfyrddin yn haeddu cael yr amgylchedd gorau y gallwn ei ddarparu," meddai.
Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, bydd Sir Gaerfyrddin wedi gwario bron £128 miliwn ar ei Rhaglen Moderneiddio Addysg, drwy adeiladu chwe ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd newydd a helaethu neu adnewyddu 33 o ysgolion eraill. Mae dwy ysgol newydd wedi agor yn Llanelli sef Ysgol y Felin ac Ysgol Brynsierfel.
