English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Rhoi sicrwydd i'r trigolion ynghylch clirio sbwriel  

Mae penaethiaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi sicrwydd i'r trigolion bod camau ar waith er mwyn clirio sbwriel yn sgil casgliadau a fethwyd ar draws y sir.
Daeth nifer o gwynion i law'r Cyngor gan bobl sydd wedi cael problemau o ran eu casgliadau sbwriel yn ystod y tair wythnos diwethaf.
Mae'r Cyngor am ymddiheuro i'r trigolion am unrhyw darfu, ac mae'n gweithio gyda'r Undebau Llafur i unioni sefyllfa'r casglwyr sbwriel cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser, mae trefniadau ychwanegol ar waith er mwyn sicrhau y gall y Cyngor gyflawni'r ddyletswydd statudol sydd arno i gasglu gwastraff domestig. 
Y bwriad yw clirio'r sbwriel dros ben sydd ar y strydoedd erbyn diwedd wythnos nesaf. Fodd bynnag, os oes gan bobl bryderon ynghylch bagiau wedi eu rhwygo neu lygod ac ati, cysylltwch â ni fel y gallwn eu gwaredu cyn gynted â phosibl.
Hoffai'r Cyngor gadarnhau i'r trigolion nad oes dim newidiadau wedi bod i iechyd a diogelwch, i'r rowndiau sbwriel, nac i unrhyw amodau gwaith eraill yn achos y gweithwyr sbwriel, ac felly nid hynny sy'n gyfrifol am y casgliadau a fethwyd.
Mae'r Cyngor wedi cytuno ar delerau ac amodau newydd gyda'i holl weithwyr, ac yn sgil hynny mae system gyflogau unffurf wedi cael ei rhoi ar waith.
Fel rhan o'r gwaith hwn rydym hefyd wedi cael gwared â’r system "cyflawni gwaith a gorffen", lle roedd casglwyr sbwriel yn gallu gadael gwaith cyn gynted ag yr oeddent wedi gorffen casglu'r sbwriel. Y casglwyr sbwriel oedd yr unig grŵp o blith y staff a allai wneud hyn, ac yn aml byddent yn gadael dwy neu dair awr yn gynharach bob dydd.
Dywedodd Richard Workman, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Technegol: “Nid ydym yn gallu gwneud trefniadau arbennig ar gyfer casglwyr sbwriel gan na fyddai hynny'n deg ar yr holl aelodau eraill o'r staff sy'n gweithio eu horiau llawn yn ôl y contract bob wythnos.
“Er ein bod yn gobeithio datrys y broblem hon yn fuan drwy barhau i ymgynghori, ni fyddwn ni'n gadael y sefyllfa fel y mae a byddwn yn ystyried pob ffordd bosibl er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn dal i gael ei ddarparu.
“Unwaith yn rhagor, rydym ni'n gwerthfawrogi amynedd a chydweithrediad pawb yn ystod y cyfnod hwn ac yn ymddiheuro i'r bobl y mae hyn wedi amharu arnyn nhw.  Rydym ni'n gobeithio y bydd y drefn arferol ar waith unwaith eto i raddau helaeth rywbryd wythnos nesaf."
Efallai y bydd trigolion yn sylwi bod eu sbwriel yn cael ei gasglu'n hwyrach na'r arfer o hyn ymlaen. Caiff unrhyw sbwriel nas casglwyd ei glirio, ond os oes gennych unrhyw bryderon, cysylltwch â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567.
Yn ogystal, gellir mynd ag unrhyw wastraff i un o'n Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Hendy-gwyn, Llangadog, Wernddu (Rhydaman), Trostre (Llanelli), a Nant-y-caws (Caerfyrddin). Os oes gan unrhyw un bryderon ynghylch yr oedi o ran casglu gwastraff bwyd, byddai'n dderbyniol i'r gwastraff bwyd gael ei roi mewn bagiau du. Hefyd gellir mynd â bagiau glas i'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, oni bai am yr un yn Llangadog. I gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys oriau agor, ewch i www.sirgar.gov.uk/ailgylchu Follow us on Facebook

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 20/4/2012