Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/1/2012
Cau Canolfan Ailgylchu i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol
BYDD Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Wernddu ger Rhydaman ar gau i’r cyhoedd ddydd Iau, Ionawr 12.
Mae’r safle, sy’n cael ei reoli ar ran y Cyngor gan ‘CWM Environmental Ltd’, yn cael ei gau am y dydd er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.
Bydd y safle ar agor yn ôl yr arfer ddydd Gwener, Ionawr 13. Ymddiheuriadau i’r cyhoedd am unrhyw anghyfleustra a achosir.