English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 13/10/2011
Parcmyn yn dod o hyd i algâu gwyrddlas mewn llyn  

Mae parcmyn ym Mharc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, wedi sylwi bod algâu gwyrddlas yn tyfu ym Mharc Dŵr y Sandy.
Y farn yw bod hyn wedi digwydd yn sgil y tywydd anarferol o gynnes yn ddiweddar sy'n gallu rhoi hwb i dwf algâu, ac efallai fod llygredd o dai cyfagos wedi cyfrannu at y broblem.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhybuddio'r cyhoedd rhag cyffwrdd â'r dŵr yno. Yn ogystal mae arwyddion parhaol wedi eu gosod er mwyn rhybuddio ynghylch peryglon posibl algâu.
Y tro diwethaf i lygredd o'r fath ddigwydd oedd yn ystod haf 2006. Hefyd mae swyddogion iechyd a pharcmyn wedi gosod arwyddion dros dro ychwanegol o amgylch y llyn er mwyn pwysleisio bod peryglon.
Nid yw'r llyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon dŵr ond yn fynych mae pobl sy'n mynd â'u cŵn am dro yn gadael i'w cŵn fynd i'r dŵr i nôl teganau ac ati sydd wedi eu taflu i'r dŵr. Gallai fod risg i unrhyw anifeiliaid anwes sy'n nofio yn y llyn.
Cadarnhaodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru fod canlyniadau'r profion ddydd Mawrth yn dangos bod algâu yn y dŵr, a bydd swyddogion yr asiantaeth yn dal i gadw golwg ar y sefyllfa hyd nes y bydd y dŵr yn rhydd o lygredd.
Mae'n debygol y bydd y gordyfiant o algae yn broblem dros dro yn unig gan fod newidiadau yn y tymheredd, y gwynt a'r glaw yn darnio ac yn dadelfennu'r algâu.
Bydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn dal i fonitro'r llyn ac i adolygu'r samplau. Bydd yn rhaid aros am ddau brawf clir yn olynol cyn y gellir cyhoeddi bod y broblem ar ben.
Nid yw'r broblem hon yn effeithio ar y naw llyn arall rhwng y Bynea a Phorth Tywyn sydd ym Mharc Arfordirol y Mileniwm nac ychwaith ar y dŵr yn Noc y Gogledd, Llanelli.
Mae gordyfiant o algâu gwyrddlas yn rhywbeth naturiol sy'n gallu digwydd o bryd i'w gilydd pan fo'r tywydd yn gynnes. Mae'r broblem yn cael ei gwaethygu gan faetholion o gemegolion sy'n cael eu defnyddio mewn peiriannau golchi dillad a pheiriannau golchi llestri. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn ymweld â'r 200 o aelwydydd sydd ar hyd glannau  Parc  Dŵr y Sandy, er mwyn gweld a oes unrhyw beiriannau o'r fath wedi eu cysylltu â'r systemau draenio dŵr glaw sy'n llifo i'r llyn.
Mae alga gwyrddlas (cyanobacteria) yn digwydd yn naturiol mewn llynnoedd a phyllau, mewn aberoedd, ac yn y môr, ac nid oes modd ei drin na'i waredu.

Y cyngor a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw bod algâu'n gallu cynhyrchu gwenwyn a bod y gwenwyn hwnnw yn ei dro yn gallu achosi brech ar y croen, cyfogi, bola tost, cryd, a phen tost os caiff ei lyncu.
Cynghorir ymwelwyr â  Pharc Dŵr y Sandy i fod yn ofalus gan roi sylw i'r canlynol: peidio â nofio yn y dŵr; peidio â llyncu'r dŵr; peidio â chyffwrdd â'r algâu; peidio â bwyta pysgod sydd wedi eu dal yn y dŵr; peidio â gadael i anifeiliaid anwes na da byw fynd yn agos i'r dŵr; a darllen yr arwyddion sydd wedi eu gosod o amgylch y llyn ac ufuddhau iddynt.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich iechyd, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu â Galw Iechyd Cymru drwy ffonio 0845 4647.
* I roi gwybod am algâu gwyrddlas mewn dyfroedd eraill cysylltwch â llinell frys 24 awr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru drwy ffonio 0800 807060.