RHODFA'R SANTES CATRIN YN CYRRAEDD YR UCHELFANNAU
13/10/2010
MAE canolfan siopa newydd Caerfyrddin wedi rhagori ar yr holl ddisgwyliadau ac wedi cyrraedd brig cynghrair siopa y Deyrnas Unedig.
Mae'r siopau a'r bwytai yn Rhodfa'r Santes Catrin, a gostiodd £70 miliwn, ymysg y rhai sy'n perfformio orau yn y wlad.
Dangosa'r ffigyrau diweddaraf taw bwyty Debenhams oedd yr ail brysuraf yn y DU am un diwrnod ym mis Awst - dim ond prif siop y cwmni yn Oxford Street oedd yn fwy prysur.
Sinema'r Apollo oedd yr un mwyaf prysur ond un yng Nghymru ar Orffennaf 12 a Frankie and Benny's oedd y gangen drydedd brysuraf yn y DU ar Fai 31.
Costa Coffee oedd y gangen fwyaf llwyddiannus ledled Cymru a'r De-orllewin ar Fehefin 7.
Mae'r ganolfan wedi denu dros 150,000 o ymwelwyr yr wythnos ers iddi agor, ac mae cynifer â 180,000 yr wythnos wedi bod yno ar sawl achlysur.
Mae'r siopau wedi torri sawl record o ran yr arian maent wedi ei gymryd, a golyga'r galw am lefydd yn y bwytai fod cwsmeriaid yn ciwio am hyd at awr.
Yn ôl y penaethiaid adfywio mae'r newyddion yn profi bod Caerfyrddin yn brif ganolfan siopa a hamdden.
Cyngor Sir Caerfyrddin a Simons Developers sydd wedi ysgogi'r datblygiad, sy'n denu pobl o bob cwr o Gymru.
Dywedodd Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor: “Rydym ni wrth ein bodd â'r ffigyrau masnachu diweddaraf.
“Roeddem ni wastad yn hyderus y byddai'r datblygiad yn llwyddiannus, ond mae'r ffigyrau hyn wedi rhagori ar ddisgwyliadau pawb.
“Mae Rhodfa'r Santes Catrin yn llwyddiant ysgubol sydd wedi helpu i roi lle amlwg i Sir Gaerfyrddin ar y map cenedlaethol."
Mae nifer o siopau mawrion gan gynnwys Debenhams, River Island, a Top Shop wedi helpu i ddenu'r tyrfaoedd, yn ogystal â Sinema Apollo a bwytai.
Mae siopau eraill yng nghanol y dref wedi elwa ar y cynnydd hwn yn nifer yr ymwelwyr â'r dref.
Hefyd mae'r cynllun wedi creu 400 o swyddi yn y dref.
Dywedodd Meryl Gravell, Arweinydd y Cyngor: “Mae'r datblygiad wedi helpu i atgyfnerthu enw da Caerfyrddin fel canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer siopa a chyfleusterau hamdden.
“Dangosa'r ffigyrau masnachu newydd hyn pa mor boblogaidd y mae'r cynllun wedi bod, ac mae ymateb y trigolion a'r ymwelwyr wedi rhoi llawer o bleser inni."