English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A

Adfywio Stryd y Cei  

Mae Rhydaman yn edrych ymlaen at Nadolig llewyrchus unwaith y bydd y gwaith o wella canol y dref wedi'i gwblhau.
Y disgwyl yw y bydd y strydoedd yn fwy modern a threfnus yn sgil y gwaith hwn, sy'n rhan o Raglen Adfywio uchelgeisiol y sir, a hynny er lles Rhydaman yn y tymor hir.  Bydd rhagor o seddi, coed, a theledu cylch cyfyng ychwanegol i wneud y strydoedd yn fwy deniadol, er mwyn annog mwy o bobl i ddod i'r dref i siopa.
Mae cynnydd da yn cael ei wneud o ran y cynllun gwella ac mae'r Contractwr yn gweithio ar hyn o bryd ym mhen uchaf a phen isaf Stryd y Cei er mwyn cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiad targed, a hynny er gwaethaf y tywydd gwael. Disgwylir i'r cynllun gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref 2012, ymhell cyn i'r cyfnod siopa Nadolig prysuraf ddechrau.
Mae'r mynediad i'r siopau yn cael ei gynnal a cheisia rhaglen y contractwr darfu cyn lleied â phosibl ar fasnachwyr, gan gyflawni unrhyw waith i drothwyon siopau/eiddo yn gynnar yn y bore, cyn i'r siopau agor. Yn y tymor hir golyga'r gwaith y bydd gan drigolion y dref ac ymwelwyr â hi amgylchedd siopa cyfoes sy'n hwylus i gerddwyr.
Ymgynghorwyd yn helaeth â'r masnachwyr cyn bod y cynllun yn dechrau ac mae Andrew Shufflebotham, Rheolwr Canol y Dref, a Gail Jones, a benodwyd yn swyddog cyswllt cymunedol gan Alun Griffiths (Contractors) Ltd, yn dal ati i ymgynghori.
Bydd cynrychiolaeth o gwmni Alun Griffiths yn y 'Magnolia Tree', Stryd y Cei, am un diwrnod yr wythnos o ddydd Llun 16eg Gorffennaf ymlaen. Bydd Gail Jones yno i ateb unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sydd gan y masnachwyr neu'r cyhoedd am y gwaith.
Meddai:  “Bydd sawl arddangosfa yno hefyd yn rhoi gwybodaeth am brosiectau cymunedol, yn cynnwys digwyddiad cyffrous lle bydd y gymuned yn dod ynghyd i godi arian er  mwyn prynu goleuadau Nadolig ar gyfer y coed newydd a fydd yn cael eu plannu yn Stryd y Cei. Yn ogystal bydd cyfle i dorri un o Recordiau Byd y Llyfr Guinness!"
Gall unrhyw un sy'n ymweld â'r siop fwrw golwg ar y cynlluniau a'r darluniadau sy'n dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran y  gwaith adfywio.
Mae gan Alun Griffiths (Contractors) Ltd rif rhadffôn os oes angen cysylltu â'r cwmni ar unrhyw un. Y rhif hwnnw yw 08443350200 a bydd rhywun ar gael i ateb eich galwadau rhwng 8am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Hefyd mae gwasanaeth peiriant ateb ar gael os na fydd yn bosibl ateb eich galwad yn ystod yr oriau hyn.
Meddai'r Cyng. Meryl Gravell, sef yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden: “Bydd y gwaith sy'n cael ei wneud yn Stryd y Cei, yn golygu bod gan Rydaman ganolfan siopa fwy modern a hwylus a fydd yn fwy deniadol, a'r gobaith yw y bydd yn cymell rhagor o bobl i ddod i ganol y dref i siopa.
“Mae'r contractwyr yn gwneud pob ymdrech i sicrhau y gall masnachwyr ddal ati â'u busnes bob dydd yn ôl yr arfer.”
Dywedodd y Cyng. Kevin Madge, Arweinydd y Cyngor: “Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol nesaf bydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron £3 miliwn yn y gwaith o adfywio Rhydaman.
“Mae'r gwelliannau yn Stryd y Cei yn rhan o raglen adfywio gyffredinol ar gyfer y dref sy'n cynnwys cynlluniau i ailddatblygu safle Hen Orsaf yr Heddlu a Rhes Ffowndri, yn ogystal â'r gwelliannau amgylcheddol sydd wedi eu gwneud eisoes yn Stryd Marged a chyffiniau'r Arcêd.
“Rwy'n hynod falch fod y gwelliannau i Stryd y Cei wedi dechrau, a bod y gwaith hwnnw i'w gwblhau erbyn diwedd mis Hydref.
“Bydd rhoi gwedd newydd i Stryd y Cei yn hwb anferth i ganol y dref a gall masnachwyr a siopwyr edrych ymlaen at Follow us on FacebookNadolig llewyrchus.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 11/7/2012