English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Pwy sy'n dwad draw i'r parc yn ddistaw, ddistaw bach...? 
30/11/2010 

Mae'r Siôn Corn dirgel a lledrithiol wedi dychwelyd gan ledaenu ewyllys da o gwmpas Parc Arfordirol y Mileniwm, y parc arobryn yn Llanelli. Cafodd dau fagaid siopa o deganau blewog, rhai wedi'u lapio yn anrhegion, eu gadael yn hongian yn y coed ym Mharc Dŵr y Sandy dros y penwythnos.   
A gallai hyn fod megis dechrau o ran dod o hyd i gannoedd o anrhegion.
Y llynedd, yn y ddau fis cyn y Nadolig daethpwyd o hyd i sacheidiau ohonynt – mwy na 600 o anrhegion i gyd – yn hongian mewn bagiau yn y pinwydd Corsica sy'n debyg i goed Nadolig ac sydd yn y parc.
Un sy'n aml yn cerdded drwy'r parc ddaeth o hyd i'r stôr cyntaf o deganau ym mis Hydref y llynedd ac aeth â'r teganau i siopau elusen cyn rhoi gwybod i'r parcmyn am yr hyn yr oedd wedi dod o hyd iddynt, dro ar ôl tro.
Ar ôl hynny, daethpwyd o hyd i'r teganau ar draws chwe milltir o'r parc yn clwydo mewn coed o gwmpas Cwrs Golff Penrhyn Machynys a gynlluniwyd ar batrwm cyrsiau golff Nicklaus, ar hyd Llwybr y Mabinogion, yn y coed ym Mharc Dŵr y Sandy a phedair milltir i ffwrdd yng Nghoetiroedd Porth Tywyn.
Dywedodd Andrew Jenkins, sy'n barcmon, ei bod yn syndod braidd i weld bod y Siôn Corn dirgel wedi dychwelyd nos Sul (28 Tachwedd),
“Y tro hwn, mae'n gadael negeseuon inni ynghlwm wrth y bagiau.” Roedd un, a oedd mewn llawysgrifen daclus, yn dweud ‘anrheg gymysg' ac ‘anrheg i faban.’ “The Woodland Santa” yw'r llofnod ar bob un a'r llinell olaf yw  “Goodwill and good spirit.”
Dywedodd Mr Jenkins: “Fe'n cadwodd yn brysur tan noswyl Nadolig y llynedd a dim ond un tro y gwelwyd e'n rhedeg i ffwrdd ar draws y cwrs golff”
Dywedodd Rory Dickinson, rheolwr y Parc: “Gŵyl o hwyl a rhoi i eraill yw hi ond mae hyn yn peri ychydig o broblemau inni.
“Allwn ni ddim gadael yr anrhegion lle maen nhw am resymau'n ymwneud â sbwriel. Mae'r parcmyn wedi dechrau casgliad a byddant yn rhoi'r anrhegion i elusen blant briodol.
Y llynedd, cafodd llawer o'r anrhegion eu difetha gan y tywydd ac roedd digon ohonynt i lenwi sgip. 'Doedd dim modd eu rhoi i eraill am resymau'n ymwneud ag "iechyd da a diogelwch”.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Scourfield, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Wasanaethau Hamdden: “Mae'n broblem anarferol inni.  Yn sicr, dydy ni ddim am fod yr awdurdod cyntaf i gael ei alw'n Grintach am gyhuddo Siôn Corn o adael sbwriel yn anghyfreithlon ond fe hoffem ddod i ryw fath o drefniant ag ef er mwyn dosbarthu ei anrhegion hael yn well, hyd yn oed os yw am wneud hynny'n ddienw.”