Pobl Ifanc o Sir Gaerfyrddin yn ennill Gwobr Aur
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Pobl Ifanc o Sir Gaerfyrddin yn ennill Gwobr Aur 
24/09/2010 

Daeth deuddeg ar hugain o bobl ifanc ynghyd ym Mharc y Scarlets, Llanelli ar Fedi 14 i ddathlu eu bod wedi cwblhau Gwobr Aur Dug Caeredin. 

Cynhaliwyd y noson hon, oedd wedi ei threfnu gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin, i longyfarch pobl ifanc o bob cwr o'r sir ar eu llwyddiant, a hynny cyn eu seremoni wobrwyo swyddogol yng ngŵydd Dug Caeredin yn y palas brenhinol ddechrau'r flwyddyn nesaf.  Cyflwynodd y Cynghorydd Gwynne Woolridge, yr Hyrwyddwr Pobl Ifanc a'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, dystysgrif i'r holl unigolion oedd wedi ennill y Wobr Aur ynghyd a'u llongyfarch ar eu llwyddiant.

Dywedodd y Cynghorydd Wooldridge: “Gan fod bron 190,000 o ymgeiswyr am lefydd mewn prifysgolion heb gael cadarnhad a oedd ganddyn nhw le pendant ai peidio ar y diwrnod y cyhoeddwyd y canlyniadau lefel 'A', a chan fod cystadleuaeth ffyrnig am bob swydd erbyn hyn, mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen i bobl ifanc feistroli cynifer o sgiliau a chael cymaint o brofiad â phosibl cyn mentro i'r byd mawr.”

I ennill Gwobr Aur roedd yn rhaid i'r bobl ifanc hyn fodloni pump o wahanol ofynion yn unol â rhaglen Gwobr Aur Dug Caeredin.  Roedd hyn yn cynnwys gwneud gwaith gwirfoddol am 12 mis, cyflawni ymarferion corfforol ac ymarferion sgiliau, mynd ar alltaith am bedwar diwrnod a thair noson, a chyflawni gweithgaredd ar y cyd oddi cartref mewn lleoliad preswyl am bum niwrnod a phedair noson.

Mae Cynllun Gwobrau Dug Caeredin yn boblogaidd yn Sir Gaerfyrddin, gan ddenu bron 1,800 o bobl ifanc o ysgolion, colegau a mudiadau ieuenctid y sir i weithio tuag at ennill y Gwobrau Efydd, Arian ac Aur bob blwyddyn. 

Yn ôl Matt Morden, Rheolwr Strategol Gwobrau Dug Caeredin yng Nghyngor Sir Caerfyrddin: “Dyma stori dda i Sir Gaerfyrddin. Mae'n werth ennill Gwobrau Dug Caeredin gan fod darpar gyflogwyr yn rhoi pwys mawr arnyn nhw.”

Gyda Geidiau Llanymddyfri y dechreuodd Eleri Jones weithio tuag at ei Gwobr Aur, a hynny drwy fynd ar daith gerdded 50 milltir dros Fannau Brycheiniog a oedd yn dipyn o her gan ei bod yn gorfod cario sach deithio oedd yn pwyso bron 2.5 stôn.  Aeth yn ei blaen i'r brifysgol yn ddiweddarach ond gofalodd drwy gydol ei chyfnod yn y brifysgol ei bod yn dal i weithio tuag at ennill Gwobr Aur Dug Caeredin.  Dywedodd Eleri: “Cymerais fwy na phedair blynedd i gwblhau'r Wobr Aur oherwydd fy mod yn astudio yn y brifysgol.  Roedd dal ati yn her bersonol anferth imi, ond rwyf yn falch fy mod wedi dyfalbarhau ac wedi ennill y Wobr Aur.”  

Derbyniodd Michael Cullen yntau ei Wobr Aur yn y cyflwyniad, ar ôl dechrau gweithio tuag at hynny fisoedd lawer ynghynt gyda Choleg Sir Gâr. Dywedodd Michael: “Roeddem wedi cynnal ein halltaith ni yn Ardal y Llynnoedd lle buom yn cerdded rhyw 50-60 o filltiroedd, gan goginio ein bwyd ein hunain gyda'r nos a chysgu mewn pabell am dair noson. Rwyf yn teimlo'n falch dros ben fy mod wedi cwblhau'r holl ofynion ac wedi cael fy Ngwobr Aur.  Tra oeddwn yn gweithio tuag at y Wobr Aur roeddwn wedi gwirfoddoli i helpu pobl ifanc eraill oedd yn gweithio tuag at eu Gwobrau nhw trwy Gynllun Gwobrau Dug Caeredin.”


Y DIWEDD


I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun cysylltwch ag Alison Owen Yeates, y swyddog datblygu, drwy ffonio 01267 246679.